|
Guto Thomas
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Mae cynghorwyr annibynnol yn cyd-arwain Sir y Fflint
|
Bydd cynghorwyr annibynnol yn arwain dros draean o gynghorau Cymru am y pedair blynedd nesa.
Union bythefnos ers yr etholiadau lleol, mae cytundebau a chlymbleidiau ar draws Cymru wedi cael eu cytuno, ar ôl sefyllfa ble mai dim ond pedwar cyngor lleol oedd a mwyafrif clir i unrhyw un o'r pleidiau gwleidyddol.
Y Democratiaid Rhyddfrydol fydd â'r dylanwad mwya ymhlith y pleidiau, wrth iddyn nhw ymuno â thimoedd rheoli 13 o gynghorau.
Bydd y Blaid Lafur yn parhau â rhywfaint o ddylanwad ar lefel cabinet neu fwrdd mewn 9 awdurdod; Plaid Cymru mewn 8 a'r Ceidwadwyr mewn 7.
Wrth i'r holl gytundebau gael eu cadarnhau dros yr wythnosau nesa, fe allai'r sefyllfa yma newid rhywfaint - ond dim ond mewn un cyngor, Torfaen, does dim clymblaid neu arweinydd posib wedi dod i'r amlwg.
Chwyldro Annibynnol
Yn ogystal â rheoli awdurdodau Powys a Sir Benfro mae cynghorwyr annibynnol hefyd yn arwain cynghorau ym Mlaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir y Fflint, Merthyr Tudful ac Ynys Môn, a mwy na thebyg Sir Ddinbych.
Ond mae apêl arbennig yr aelodau annibynnol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn golygu eu bod hefyd wedi gallu ymuno â chlymbleidiau mewn saith cyngor sir ychwanegol - a allai gynyddu'r cyfanswm o gynghorau ble bydd aelodaeth ar lefel lywodraethol i 16 allan o'r 22 awdurdod lleol.
Wedi iddyn nhw fethu ennill mwyafrif clir mewn unrhyw gyngor Cymreig, ac ennill y nifer lleia o seddi ymysg y prif bleidiau gwleidyddol, y Democratiaid Rhyddfrydol fydd yn dathlu - wrth iddyn nhw ymuno a mwy o glymbleidiau nag unrhyw un o'r pleidiau eraill.
Wedi iddyn nhw gryfhau eu gafael ar gynghorau Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi llwyddo yn eu hymdrechion i ymuno â chabinet neu fwrdd rheoli 10 cyngor arall.
 |
PWY SY'N RHEOLI CYNGHORAU CYMRU?
Abertawe: Democratiaid Rhyddfrydol â chymorth annibynnol a Phlaid Cymru
Blaenau Gwent: Annibynnol â chymorth Llais y Bobl â'r Democratiaid Rhyddfrydol
Bro Morgannwg: Ceidwadwyr
Caerdydd: Democratiaid Rhyddfrydol â chymorth Plaid Cymru
Caerffili: Lleiafrifol, Plaid Cymru â chymorth 2 annibynnol
Caerfyrddin: Annibynnol â chymorth Llafur â'r Democratiaid Rhyddfrydol
Casnewydd: I'w gadarnhau - posibilrwydd Ceidwadwyr â chymorth Democratiaid Rhyddfrydol
Castell-nedd Port Talbot: Llafur
Ceredigion: Annibynnol â chymorth Llafur â'r Democratiaid Rhyddfrydol
Conwy: Plaid Cymru â chymorth annibynnol, Llafur â'r Democratiaid Rhyddfrydol
Sir Ddinbych: Annibynnol â chymorth Plaid Cymru, Llafur â'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr - i'w gadarnhau
Sir y Fflint: Annibynnol â chymorth Democratiaid Rhyddfrydol â'r Ceidwadwyr
Gwynedd: Plaid Cymru - manylion y Bwrdd i'w cadarnhau
Merthyr Tudful: Annibynnol â chymorth Llafur â'r Democratiaid Rhyddfrydol
Mynwy: Ceidwadwyr
Sir Benfro: Annibynnol
Pen-y-bont ar Ogwr: Llafur â chymorth 3 annibynnol
Powys: Annibynnol
Rhondda Cynon Taf: Llafur
Torfaen: I'w gadarnhau
Wrecsam: Democratiaid Rhyddfrydol a chymorth annibynnol, Plaid Cymru â'r Ceidwadwyr
Ynys Môn: Annibynnol â chymorth Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol â'r Ceidwadwyr
|
Wedi ystyried hanes llwyddiannus y blaid, wrth herio gafael y prif bleidiau mewn etholiadau Cynulliad neu San Steffan, trwy ennill wardiau ar lefel cyngor, yna bydd hyn yn destun pryder i'r pleidiau eraill ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesa.
Wedi canlyniadau trychinebus, a cholli rheolaeth ar gymaint o gynghorau fu gynt yn gadarnleoedd, mae rhywfaint o newyddion da i'r Blaid Lafur, wedi iddyn nhw lwyddo ymuno â chlymbleidiau mewn hanner dwsin o gynghorau - yn ogystal ag arwain y cyngor ym Mhen-y-bont a chadw eu mwyafrif clir yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot.
Ond mae'r dirywiad rhyfeddol yn sefyllfa'r Blaid Lafur wrth reoli cynghorau Cymru yn debygol o gael ei danseilio hyd yn oed ymhellach, wrth iddyn nhw wynebu'r tebygrwydd o golli arweinyddiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Byddai'r sefyllfa yma wedi bod yn amhosib i'w ddarogan ychydig flynyddoedd yn ôl - ac mae'n atgyfnerthu'r farn bod y tirlun gwleidyddol nawr yn ymdebygu i "Gymru - gwlad y glymblaid", model berffaith o wleidyddiaeth Ewropeaidd.
I Blaid Cymru, dyw colli rheolaeth fwyafrifol yng Ngwynedd ddim wedi gwneud rhyw lawer o wahaniaeth o ran realiti gwleidyddol arweinyddiaeth ar system fwrdd y cyngor - wrth i'r trafodaethau barhau rhwng y gwahanol grwpiau gwleidyddol o ran cyfrifoldebau portffolio a phwyllgorau.
Mae'r blaid wedi sicrhau arweinyddiaeth y cyngor yng Nghonwy mewn clymblaid gwrth-Geidwadol, ac mae'n debyg mai llywodraeth leiafrifol fyddan nhw'n arwain yng Nghaerffili, wedi ennill cefnogaeth llond llaw yn unig o'r aelodau annibynnol.
Serch hynny, mae 'na lwyddiant wedi bod mewn trafodaethau clymbleidiol mewn pum awdurdod arall - gan gynnwys Caerdydd - sy'n golygu y bydd dylanwad ganddyn nhw wrth reoli cyfanswm o wyth cyngor Cymreig.
Bwganod Ceidwadol
Wedi iddyn nhw ddathlu eu llwyddiannau ar noson yr etholiad - gan ennill rheolaeth yn Sir Fynwy ac ym Mro Morgannwg, mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn lled aflwyddiannus mewn nifer o drafodaethau.
Er gwaetha'r ffaith eu bod wedi ennill mwy o seddi nag unrhyw blaid arall yng Nghonwy a Sir Ddinbych, mae'r pleidiau eraill wedi tueddu i wrthod clymbleidiau Ceidwadol.
Mae'r gobeithion yn parhau yn fyw y gallai'r Ceidwadwyr arwain clymblaid â chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd, a bydd cynghorwyr y blaid yn ymuno â chlymbleidiau mewn tri neu bedwar awdurdod arall hefyd.
Mae 'na sibrydion y gallai'r Ceidwadwyr arwain y cyngor yn Nhorfaen, tra bod 'na sïon hefyd y gallai'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru glymbleidio yno hefyd.
A thra bo'r ddau sefyllfa yma'n ymddangos yn hollol annhebygol, mae profiadau'r trafodaethau dros y bythefnos ddiwetha'n awgrymu na ddylai unrhyw un fod mor ffôl â diystyru unrhyw ganlyniadau yn y Gymru wleidyddol sydd ohoni.