Diben yr adolygiad oedd rhoi darlun cywir o'r sefyllfa yng Nghymru
|
Mae angen ymyrryd yn gynnar er mwyn mynd i'r afael â thriwantiaeth ac ymddygiad gwael mewn ysgolion, medd adroddiad.
Fe gafodd yr adroddiad ei ysgrifennu wedi astudiaeth a barodd am ddwy flynedd.
Un argymhelliad yw hyfforddi dwys ar gyfer staff proffesiynol lles plant ac athrawon fel y bydd modd delio ag ymddygiad gwael.
Llywodraeth y Cynulliad gomisiynodd yr adroddiad sydd wedi cael ei roi i'r Gweinidog Addysg Jane Hutt AC, ddydd Iau.
Yn adroddiad gan Yr Athro Ken Reid, dirprwy bennaeth Athrofa Addysg Uwch Abertawe, mae 19 o argymhellion craidd.
Maen nhw'n cynnwys sicrhau y bydd pob plentyn yn gallu darllen ac ysgrifennu cyn eu bod yn cyrraedd ysgolion uwchradd.
Absenoldeb
"Mae disgyblion sydd ddim â'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu erbyn iddyn nhw adael ysgol gynradd yn syrthio ymhellach y tu ôl yn eu gwaith," meddai'r Athro Reid.
"Nhw ydi'r disgyblion sy'n chwarae triwant, yn cambyhafio ac yn aml yn dod i gysylltiad â bwlio ac yn arwain at broblemau yn eu bywydau fel oedolion."
 |
RHAI O ARGYMHELLION YR ADRODDIAD
Cysylltiad clir rhwng lefel llythrennedd isel a chamymddygiad gyda phroblemau presenoldeb
Ymdeimlad gan nifer o bobl broffesiynol nad oes ganddyn nhw'r hyfforddiant digonol i ymdrin â phresenoldeb a phroblemau camymddwyn
Nifer y disgyblion sydd ddim yn yr ysgol ddim yn cael ei fonitro'n gywir
Angen gwell cydweithio rhwng asiantaethau
Cynnydd o ran disgyblion â phroblemau cyn Cyfnod Allweddol 3
Strategaeth gan Lywodraeth y Cynulliad ei angen ar frys ac yn yr hir dymor
Ffynhonnell: Adroddiad Adolygiad Ymddygiad a Phresenoldeb Cenedlaethol
|
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y Cynulliad mae tua 16,500 o blant yn absennol o wersi bob dydd, rhai yn absennol gyda chaniatâd ond y mwyafrif heb ganiatâd.
Gallai'r adroddiad arwain at newidiadau pellgyrhaeddol.
Dywedodd y dylai Llywodraeth y Cynulliad lunio strategaethau i helpu disgyblion mewn risg a chynyddu'n fawr yr arian ar gael ar gyfer hyfforddi staff.
Mae'r adroddiad yn cynnwys camau gweithredu i bennu arfer effeithiol hyrwyddo ymddygiad positif a phresenoldeb da ac yn nodi sut y mae modd rhannu'r arfer a'i weithredu mewn ysgolion ac awdurdodau lleol.
Ac mae'n pennu sut i ddefnyddio partneriaethau aml-asiantaeth yn effeithiol wrth geisio mynd i'r afael â thriwantiaeth.
Ym mis Mawrth 2006, dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai adolygiad cenedlaethol o ymddygiad a phresenoldeb.
Diben yr adolygiad oedd rhoi darlun cywir o'r sefyllfa yng Nghymru a chasglu ac adolygu arferion da.
Ers 1976 mae'r Athro Reid wedi ymchwilio i absenoldeb o ysgolion, triwantiaeth, y gwasanaeth lles addysg, bwlio ac ymddygiad disgyblion.