Gallai'r cerflun fod y tu allan i Wylfan Moelfre
|
Gallai cerflun gael ei godi yng Nghaergybi i'r diweddar Arglwydd Cledwyn o Benrhos.
Fe gafodd y dyn fu'n Aelod Seneddol Ynys Môn am 28 mlynedd ei eni yng Nghaergybi.
Bu farw yn 2001 yn 84 oed.
Mae rhai wedi dweud ei fod yn hen bryd codi cofeb gan fod gwleidyddion amlwg fel Lloyd George wedi cael eu hanrhydeddu.
Ond mae eraill o'r farn nad cerflun fyddai'r ateb gorau ac y dylid cael mwy o ymgynghori cyn symud ymlaen.
Gallai'r cerflun gael ei godi y tu allan i Wylfan Moelfre ger y cerflun i Dic Evans, un o arwyr morwrol pwysicaf yr ynys, gafodd ei ddadorchuddio yn haf 2004.
'Teilwng'
"Fe wnaethon ni sefydlu pwyllgor a phenderfynu mai cerflun i Cledwyn fyddai'r ffordd orau ymlaen," meddai John Chorlton, cynghorydd Llafur yng Nghaergybi.
"Mae pawb arall â statws tebyg wedi cael cofeb deilwng fel Lloyd George.
"Felly pam ddim un i Cledwyn?"
Dywedodd y cyn-Faer Trefor Lloyd Hughes: "Dwi ddim yn sicr am y syniad o gael cerflun.
"Dwi eisiau cofeb i'r Arglwydd Cledwyn, wrth gwrs, ond efallai y dylwn ni edrych ar syniadau eraill a gofyn i bobl Caergybi am eu syniadau."