Mae ffatri Airbus ym Mrychdyn yn cyflogi dros 7,000
|
Bydd £100 miliwn yn cael ei wario ar ymchwil allai ddiogelu dyfodol tymor hir cwmni Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Llywodraeth Prydain wnaeth y cyhoeddiad ond fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu £7.5m at y rhaglen, eu buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil a datblygu.
Nod y cynllun yw datblygu adenydd ysgafnach ar gyfer awyrennau'r dyfodol.
Mae arbenigwyr wedi awgrymu y bydd y ffatri mewn sefyllfa gref.
'Ar flaen y gad'
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC: "Bydd y rhaglen ymchwil a thechnoleg hon yn rhoi i'r ffatri ym Mrychdyn y sgiliau a gwybodaeth i fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu adenydd, ac yn ei rhoi mewn sefyllfa gref i ennill cytundebau allweddol yn y dyfodol".
Am eu bod yn cyflogi mwy na 7,000 o weithwyr Airbus yw'r cyflogwr unigol mwyaf yng Nghymru.
Mae'r ffatri'n cynhyrchu adenydd yr awyren A350 ac adenydd y superjumbo A380.
Ac mae'r arian ar gyfer yr ymchwil yn gyfuniad o arian cyhoeddus ac arian o'r sector preifat.
Mae angen datblygu adenydd ysgafnach er mwyn cwrdd â gofynion amgylcheddol y dyfodol.
Bydd yr adenydd newydd yn golygu defnyddio llai o danwydd.
£20 biliwn
Safle Airbus yn Filton, Bryste, fydd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil.
Ond bydd y gwaith o gynhyrchu'r adenydd yn debygol o gael ei wneud yn Sir Y Fflint.
Ym mis Mawrth enillodd y ffatri gytundeb gwerth £20 biliwn i gynhyrchu adenydd tancer awyren ar gyfer Awyrlu yr Unol Daleithiau.
Mae tua 1,500 o weithwyr eraill, fel glanhawyr a gweithwyr arlwyo, yn gysylltiedig â ffatri Airbus.