BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 14 Mai 2008, 08:48 GMT 09:48 UK
Gwyl Geltaidd: Sylw i Gymru
Lorient
Fe fydd mwy na 200 o berfformwyr o Gymru yn Lorient
Cerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant Cymru fydd yn cael y sylw mawr yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Awst.

Fe fydd mwy na 200 o berfformwyr o Gymru yn un o wyliau Celtaidd mwyaf y byd, yn Llydaw rhwng Awst 1 a 10.

Cymru fydd y brif wlad yn yr ŵyl gafodd ei lansio ym Mharis nos Fawrth.

Mae'r ŵyl, sy wedi cael ei chynnal bob blwyddyn ers 1971, yn cynnwys perfformwyr enwog fel Catrin Finch.

Ac mae mwy na 700,000 yn mynd i'r digwyddiad bob blwyddyn.

Artistiaid o Gymru
Catrin Finch
Sibrydion
Aneirin Karadog
Clerorfa
Dawnswyr Môn
Sidan
Bethan Nia
Côr Meibion Dowlais
Helina Rees
Richard James
Iwan Bala
James Uzzel-Edwards

Fe fydd y band roc Sibrydion yn perfformio ddydd Gwener, Awst 1.

Ar Awst 2 fe fydd Dathliad Gala Blwyddyn Cymru dan arweiniad y Aneirin Karadog, y bardd a'r cyflwynydd teledu, a Siân Melangell Dafydd, yr awdur a'r beirniad llenyddol.

Clerorfa, cerddorfa werin o 50 o delynau, ffidlau, ffliwtiau, cornbibau a phibgodau, fydd yn perfformio yn ogystal â Dawnswyr Môn, Sidan a Chôr Meibion Dowlais.

Fe fydd cyngerdd ddydd Llun, Awst 4, yn cynnwys y delynores fydenwog Catrin Finch, Crasdant, Clerorfa a Chôr Meibion Dowlais.

Drwy gydol yr ŵyl mae arddangosfa o waith yr artistiaid gweledol Iwan Bala a John Uzzel-Edwards, yn adeilad y Siambr Fasnach yng nghanol y ddinas.

Dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru: "Fe fydd dinas Lorient yn llawn o gerddoriaeth, celf a diwylliant o Gymru am 10 niwrnod ym mis Awst - gan amrywio o'r traddodiadol i'r cyfoes.

Lorient
Mae mwy na 700,000 yn mynd i'r digwyddiad bob blwyddyn

"Fe fydd gan fwy na 500,000 o ymwelwyr y cyfle i ddysgu mwy am Gymru fel lleoliad twristiaeth, busnes ac addysgiadol delfrydol.

"Ac fe ddylai hyn olygu manteision mawr i Gymru."

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog Treftadaeth: "Fe fydd yr ŵyl hon yn dangos bod Cymru'n wlad hyderus, flaengar ac amlieithog."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^