Slogan enwog: Cofiwch Dryweryn
|
Mae slogan sy'n cyfeirio at foddi pentre 40 mlynedd yn ôl wedi cael ei hailbaentio.
Cafodd y slogan enwog "Cofiwch Dryweryn" ei hailbaentio ar wal yn Llanrhystud ger Aberystwyth nos Lun.
Yn wreiddiol, cafodd y slogan ei sgrifennu yn fuan wedi i bentre enwog Cwm Celyn ger Y Bala gael ei foddi yn 1965.
Ond ychydig o dyddiau yn ôl cafodd y slogan ei newid i "Angofiwch Dryweryn" hynny yw "Anghofiwch Dryweryn".
'Trueni mawr'
Ddydd Llun dywedodd Glyn Davies, cyn-gadeirydd Cyngor Cymuned Llanrhystud, y pentref agosaf i'r wal, ei fod yn "drueni mawr" bod y geiriad wedi cael ei newid.
Mae'r wal wedi dirywio dros y blynyddoedd ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gobeithio ei hadfer.
Eisoes mae'r mudiad wedi cysylltu ag Elin Jones, AC Ceredigion, sy wedi cysylltu â'r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas AC.
Roedd mudiad Cadw wedi dweud na fyddai grant ar gael am nad oedd y wal yn gofeb gofrestredig nac yn adeilad hanesyddol.