BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 14:25 GMT 15:25 UK
Gwahardd: Prifathro'n apelio
Paul Davies
Cafodd Paul Davies ei garcharu am 15 mis

Yn yr Uchel Lys mae prifathro gafodd ei wahardd rhag dysgu ar ôl cael ei garcharu am yrru'n beryglus yn apelio yn erbyn y penderfyniad.

Cafodd Paul Davies, 52 oed, ei garcharu am 15 mis am yrru'n beryglus yn 2006.

Mae'r gyrrwr arall wedi bod mewn cadair olwyn.

Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar penderfynodd y Cyngor Dysgu Cyffredinol wahardd y prifathro rhag dysgu am ddwy flynedd.

Yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mawrth dywedodd ei fargyfreithiwr nad oedd y penderfyniad i'w wahardd "'yn deg a rhesymol."

Roedd Mr Davies yn brifathro yn Ysgol Gynradd Cwmdâr.

Roedd llywodraethwyr yr ysgol wedi penderfynu ei ailbenodi ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

Ond wedyn bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd oherwydd penderfyniad y Cyngor Dysgu Cyffredinol ym mis Chwefror eleni.

Er bod y ddamwain y tu allan i oriau ysgol, meddai'r cyngor dysgu, roedd yr achos wedi "niweidio enw da'r proffesiwn a hyder y cyhoedd."

Anafiadau difrifol

Yn yr achos llys gwreiddiol roedd tyst wedi dweud bod Mr Davies yn gyrru ar gyflymder o 120 o filltiroedd yr awr ar Heol Blaenau'r Cymoedd pan darodd gar arall ac achosi anafiadau difrifol i Kevin Palmer.

Bu'n rhaid i Mr Palmer, 49 oed, fyw mewn canolfan gofal i ffwrdd o'i deulu ar ôl cael ei gadael yr ysbyty ar ôl 10 mis.

Roedd wedi cael anafiadau i'w belfis, ysgwydd, asennau, coesau, asgwrn cefn yn ogystal ag anafiadau mewnol.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Casnewydd fod y prifathro wedi gyrru "fel gyrrwr ifanc gwyllt."

"I bob pwrpas," meddai, roedd wedi dinistrio bywyd Mr Palmer a'i deulu.

Mae'r apêl yn parhau.



HEFYD
Diarddel prifathro o gofrestr
04 Chwef 08 |  Newyddion
Prifathro: Euog o yrru'n beryglus
10 Mai 07 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^