BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 11:54 GMT 12:54 UK
Dim carchar i 'Darth Vader'
Rhywun yn gwisgo fel Darth Vader (Lluniau llyfrgell)
Roedd y diffynnydd, oedd yn gwisgo bag bin du, wedi gweiddi: 'Darth Vader'
Mae dyn a wisgodd fel Darth Vader cyn ymosod ar gefnogwr Star Wars wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar.

Roedd Arwel Wynne Hughes, 27 oed o Gaergybi, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ymosod ar Barney Jones a'i gefnder, Michael.

Fe gafodd ddedfryd o ddau fis o garchar wedi ei gohirio am flwyddyn a gorchymyn i dalu £100 yr un i'r ddau ddioddefwr a chostau erlyn o £60.

Fe fydd yn cael triniaeth oherwydd problemau alcohol.

Roedd y llys wedi clywed bod Hughes, oedd yn gwisgo bag bin du, wedi gweiddi "Darth Vader!"

'Problem ddifrifol'

Yn Llys Ynadon Caergybi fe ddywedodd yr erlynydd Nia Lloyd fod Barney Jones newydd sefydlu eglwys Jedi yng Nghaergybi.

Clywodd y rheithgor fod gan Hughes "broblem alcohol ddifrifol" ac iddo yfed y rhan fwya o focs 10 litr o win.

Fe ddywedodd yr erlynydd fod Barney Jones a'i gefnder yn "credu'n gryf yn yr eglwys".

Doedd Hughes, meddai'r erlynydd, ddim yn cofio'r hyn oedd wedi digwydd ac wedi sylweddoli beth oedd wedi digwydd pan ddarllenodd bapur lleol.

Ar ran yr amddiffyn, dywedodd Frances Jones fod alcohol yn "dinistrio ei fywyd".

Clywodd y llys fod Hughes o'r blaen yn euog o achosi cythrwfl ac ymddwyn yn afreolus.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^