Ymhlith artistaid enwog: Stereophonics
|
Bydd cyngerdd yn rhad ac am ddim yn Stadiwm y Mileniwm yn dathlu llwyddiant tîm rygbi Cymru wrth ennill y Gamp Lawn.
Mae'r Stereophonics a Feeder ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar Fai 26.
Bydd y capten Ryan Jones a gweddill y garfan yn bresennol.
Yn ogystal ag artistiaid yn perfformio fe fydd deunydd am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar sgrîn fawr.
Artistiaid eraill sy'n cymryd rhan yw Rhydian Roberts o'r X-Factor a'r gantores Heather Small.
Bydd y tocynnau ar gael oddi wrth glybiau rygbi yn Undeb Rygbi Cymru o ddydd Gwener ymlaen.
Ac fe fydd y tocynnau ar gael o siop yr Undeb yn Stadiwm y Mileniwm a Siop Ticketline yng Nghaerdydd.
Dathlu llwyddiant
Bydd uchafswm o chwe thocyn ar gyfer bob person.
"Dylai pobl gysylltu'n fuan oherwydd rydyn ni'n disgwyl i'r tocynnau fynd yn gyflym," meddai llefarydd.
Bydd tîm y merched, timau cenedlaethol o bob oedran a thîm saith bob ochr yn cymryd rhan.
"Hwn yw un o'r tymhorau rhyngwladol gorau erioed, gyda'r timau cenedlaethol ar bob lefel ond yn colli tair allan o 23," meddai'r llefarydd
Yn ôl Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, roedd galw mawr am ddathliad o'r fath.
"Bydd Gŵyl y Banc yn achlysur mawr i gefnogwyr rygbi neu chwaraeon yn gyffredinol ac unrhyw un sy'n falch o fod yn Gymro."
Yn 2005 roedd 20,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm wrth ddathlu llwyddiant tîm 2005 wrth ennill y Gamp Lawn.