BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 10:45 GMT 11:45 UK
Cyn-blismon i sefyll ei brawf
Geoffrey Harries
Honnwyd bod y dyn 49 oed wedi creu a meddu ar ddelweddau anweddus

Mae cyn-heddwas wedi bod gerbron Ynadon Caerdydd ar gyhuddiadau'n ymwneud â 2,092 o ddelweddau anweddus o blant.

Ymddiswyddodd Geoffrey Harries, cyn-gwnstabl yn Heddlu Dyfed-Powys, ar Fawrth 26, 2008.

Honnwyd bod y dyn 49 oed o Ben-bre ger Llanelli wedi creu a meddu ar ddelweddau anweddus pan oedd yn blismon.

Mae'n wynebu 15 cyhuddiad o greu delweddau anweddus rhwng Mai 2005 a Rhagfyr 2007 ac un cyhuddiad o feddu ar ddelwedd anweddus ar dachwedd 26 y llynedd.

Dywedodd y Barnwr John Charles fod yr achos yn anaddas ar gyfer Llys Ynadon.

Fe gafodd Mr Harries fechnïaeth ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Fehefin 16.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^