BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 05:50 GMT 06:50 UK
Rhoddwyr organau: Ymgyrch
Allison John (chwith) â chydweithwyr y sefydliad
Allison John (chwith): Llysgennad

Mae ymgyrch yn cael ei lansio sy'n anelu at godi nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru.

Bydd naw elusen yn dod at ei gilydd i berswadio llawer mwy i roi organau.

Dyma'r tro cynta i ymgyrch fel hyn ddigwydd yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae tua 470 o bobl yng Nghymru'n aros am drawsblaniad organ tra bod 780,000 ar gofrestr rhoi organ.

Mae'r trefnwyr wedi dweud taw nod yr ymgyrch yw "annog pobl i drafod rhoi organ".

Roy Thomas, cadeirydd gweithredol Sefydliad Aren Cymru, sy'n lansio ymgyrch Rhoddwch Gymru - Dywedwch wrth Rywun Agos y tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Fe fydd 150 o falŵns yn cael eu gollwng i'r awyr, hynny yw nifer y rhai sy wedi marw yng Nghymru ers 2003 wrth aros am roddwr - a 471 arall, hynny yw y rhai sy'n dal i aros.

Dywedodd Mr Thomas: "Os ydyn ni am leihau'r bwlch rhwng nifer y rhai sy'n aros am organ a nifer yr organau ar gael, rhaid i ni drafod â'n teulu ein dymuniad i fod yn rhoddwyr organau pan fyddwn ni'n marw ..."

Ym mis Mawrth cyhoeddwyd y byddai ymgynghoriad oherwydd newid posib o ran sut mae organau'n cael eu rhoi yng Nghymru.

Llawdrinaieth (Cyffedinol)
Tua 470 o bobol yng Nghymru'n aros am drawsblaniad organ

Un o bwyllgorau'r cynulliad sy'n ymchwilio a ddylid cyflwyno trefn caniatâd tybiedig o ran rhoi organau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae modd cymryd organau oddi wrth bobl sydd wedi eu cofrestru fel rhoddwyr.

Ers pum mlynedd mae 750 wedi cael trawsblaniad a'u bywyd wedi newid er gwell.

Dywedodd llysgennad y Sefydliad Aren, Allison John,: "Fe fyddwn i wedi marw 13 blynedd yn ôl oni bai am y bobl garedig roddodd organau i mi.

"Oherwydd yr hyn wnaethon nhw dwi wedi cael cyfle i fynd i'r brifysgol, teithio'r byd a byw bywyd normal."

Roedd y fenyw 29 oed o Gaerdydd wedi cael trawsblaniadau iau, calon, ysgyfaint ac aren.

'Yn bwysig'

Fe fydd y Gweinidog Iechyd Edwina Hart a Phrif Weinidog Cymru Rhodri Morgan yn y lansiad.

"Dyw pobol ar y cyfan ddim am feddwl am yr hyn sy'n digwydd i ni a'n horganau ar ôl marw ...," meddai Ms Hart.

"Ond mae'n bwysig ein bod ni'n trafod y posibilrwydd â'n teuluoedd."



HEFYD
Claf canser yn pryderu am gyllid
22 Chwef 08 |  Newyddion
Organau: Ceisio barn y cyhoedd
21 Tach 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^