BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Mai 2008, 07:34 GMT 08:34 UK
£6m i daclo gordewdra plant
Peiriant gwerthu bwyd
Mae mwy o blant Cymru dros eu pwysau nag erioed o'r blaen.

Mae'r dasg o daclo gordewdra plant wedi cael hwb o £6.3 miliwn

Y Gronfa Loteri Fawr sy wedi rhoi'r arian i brosiectau drwy Gymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

Mae mwy o blant yng Nghymru dros eu pwysau nag erioed o'r blaen.

Bydd 14 o brosiectau yn elwa ar yr arian o dan raglen Teuluoedd Iach y gronfa.

Nod y prosiectau yw datblygu ffyrdd newydd o hyrwyddo bwyta a byw'n iach.

Tri phatrwm

Bydd y prosiectau yn defnyddio tri phatrwm i gyflwyno'r nod o fyw'n iach.

Nod Ffrindiau Iach yw hybu bwyta'n iach a gwneud ymarfer corff drwy ddefnyddio plant hŷn fel mentoriaid i blant iau.

Mae Tiwtoriaid Iach yn rhoi cyngor a chefnogaeth i blant a'u teuluoedd tra bydd Lleoedd Iach yn cynnal gweithgareddau cymunedol i hybu byw'n iach.

Dywedodd Graham Benfield, aelod pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a chadeirydd pwyllgor rhaglen Teuluoedd Iach: "Mae gordewdra plant yn bryder mawr sy'n wynebu teuluoedd a'r llywodraeth yng Nghymru.

"Mae tystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos bod prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn drwy gynnwys y teulu cyfan yn fwy llwyddiannus a dyna pam fod y Gronfa Loteri Fawr wedi datblygu'r rhaglen Teuluoedd Iach."

'Closio'

Un o'r prosiectau fydd yn derbyn arian gan y gronfa yw Clybiau Plant Cymru Sir Gaerfyrddin sy'n gweithio gyda chlybiau ar ôl ysgol.

Dywedodd rheolwraig prosiect Clybiau Plant Cymru, Karen Pereira, eu bod yn falch o dderbyn yr arian.

"Rydyn ni'n credu bod plant yn dysgu'n well oddi wrth blant hŷn ac felly fe fydd plant 10-11 oed yn ein clybiau ni'n 'closio' at blant rhwng saith ac wyth oed," meddai.

"Dros gyfnod o dair blynedd, hynny yw hyd y prosiect hwn, rydyn ni'n gobeithio newid yn fawr agweddau plant at fwyd ac ymarfer corff," ychwanegodd.



HEFYD
Gofyn barn am ansawdd bwyd
25 Medi 07 |  Newyddion
Cinio: Cadw plant yn ysgol?
06 Medi 07 |  Newyddion
'Angen bwyd ysgol iachach'
25 Medi 03 |  Newyddion
Iwerddon yn dilyn y Criw Bwyd
19 Chwef 07 |  Newyddion
'Mwy o bwysau ar ysbytai'
29 Rhag 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^