Mae angwn gwneud mwy i annog pobl ifanc i weithio neu aros mewn ysgolion
|
Gall mwy o ddewis mewn ysgolion a cholegau leihau nifer y bobl sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth y Cynulliad.
Credir bod 'na 12,000 o bobl yn y categori yma ac mae gweinidogion yn gobeithio taclo'r broblem.
Mae'r llywodraeth yn lansio strategaeth newydd sy'n cynnwys deddfwriaeth i gynnig mwy o opsiynau a chefnogaeth i bobl ifanc.
Maen nhw am i'r awdurdodau gydweithio'n well gyda'r bobl ifanc yma.
Dywedodd y llywodraeth, er bod ymdrech wedi bod i daclo'r broblem, mae nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cyfri i fod yn y categori yma yn dal i fod yn annerbyniol o uchel, 10% o holl bobl ifanc 16-18 oed.
'Gwireddu doniau'
Maen nhw am sicrhau bod cynghorau, ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn cydweithio i gynnig mwy o opsiynau trawiadol a chyrsiau hyblyg.
John Griffiths, Dirprwy Weinidog Sgiliau sy'n lansio'r ddogfen 'Cyflawni Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru: Lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru', ddydd Llun.
Y bwriad ydi i drawsnewid y ddarpariaeth addysg a gwireddu doniau pobl ifanc.
"Ers datganoli, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant," meddai Mr Griffiths.
"Mae nifer o fentrau eisoes wedi'n helpu i gyflawni ein targed Gweledigaeth ar Waith ar gyfer 2007 i leihau cyfran y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i 10%.
"Fodd bynnag, mae'r ffigur hwn yn parhau i fod yn annerbyniol a rhaid i ni weithredu nawr i'w leihau ac osgoi mwy o bobl ifanc yn gadael addysg."
Fe fydd Mr Griffiths yn ymweld â Rathbone yng Nghrymlyn i weld sut mae'r cwmni'n cefnogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Trawsnewid
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud y bydden nhw'n cydweithio gydag Adran Waith a Phensiynau Llywodraeth San Steffan i gynorthwyo'r rhai sy'n cael anawsterau i ganfod gwaith i fod yn rhan o'r Fargen Newydd sy'n cynnig hyfforddiant wrth iddyn nhw chwilio am waith.
"Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn dewis aros mewn addysg ar ôl 16 oed, gan gynnwys y rhai sy'n wynebu'r her anoddaf.
"Mae cytundeb Cymru'n Un yn rhoi ymrwymiad cryf i drawsnewid y ddarpariaeth addysg ar gyfer pobl ifanc drwy gynnig opsiynau dysgu deniadol a hyblyg, gyda mwy o gymorth ac arweiniad.
"Rwy'n annog busnesau, rhanddeiliaid ac unigolion i helpu i lywio'n hagenda ar gyfer Cyflawni Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru, a chymryd rhan weithgar yn y broses ymgynghori hon."