Fe fydd 'na bedwar yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.
Dau ddyn a dwy ddynes ddaeth i'r rownd derfynol eleni.
Cafodd y tri beirniad, y cyflwynwyr teledu Sara Edwards a Siân Lloyd ac Aled Davies, eu synnu gan safon y pedwar.
Roedd 'na 19 wedi cystadlu yn y rownd gynderfynol gafodd ei gynnal yn gynharach eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Bu'n rhaid iddyn nhw gymryd rhan mewn gemau a sesiynau cwestiwn ac ateb gyda'r beirniaid.
Eleni mae'r gystadleuaeth yn 25 oed.
Martin Baldry
Martin Baldry
|
Symudodd Martin i Gymru o'i gartref yn Sheffield yn 1990 pan ddaeth i astudio cwrs hyfforddi athrawon ym Mangor. Mae bellach yn Brifathro Ysgol Gynradd Bwlchgwyn yn Wrecsam ac yn siarad Cymraeg ar bob cyfle. Mae wedi bod yn rhoi gwersi Cymraeg i rieni plant yr ysgol. Mae'n briod a ganddo dri o blant ac yn byw yn Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd.
Michael Evans
Mike Evans
|
Yn wreiddiol o Gaerdydd, symudodd Michael i ffwrdd i astudio a gweithio am dros 20 mlynedd. Gwariodd dair blynedd yn y Phillipinnes yn gweithio gyda'r VSO i helpu pysgotwyr lleol. Yno cwrddodd â'i wraig a dysgodd brif iaith y wlad - Tagalog. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl i bobl yno ofyn iddo pam nad oedd yn siarad iaith ei wlad ei hun. Ar ôl cyrraedd yn ôl yng Nghymru dechreuodd ddysgu a llwyddodd i gael A yn ei Lefel A Cymraeg. Bu wedyn ar gyrsiau cyfieithu. Mae bob amser yn mynnu siarad Cymraeg yn ei waith gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn byw gyda'i wraig a'i ddau blentyn yng Nghaerdydd.
Jenny Henn
Jenny Henn
|
Ganed Jenny yn Cwm, Glyn Ebwy, ond symudodd i Gaergrawnt gyda'i gwr a'i mab yn 1976. Penderfynodd ddysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Wales yng Nghaergrawnt. Clywodd am wersi oedd yn cael eu trefnu mewn tafarndai yn y dre a phenderfynodd ymuno yn yr hwyl. Symudodd yn ôl i Gymru yn 2005 ac ers hynny mae wedi cyfrannu'n gryf i'r gymuned Gymraeg gan weithio yn wirfoddol yn y Ganolfan Gymraeg yn Merthyr, cynrychioli dysgwyr yn yr Eisteddfod a hefyd yn ddiweddar bu iddi ennill y gadair. Mae hefyd yn cyfrannu ar radio a theledu yn y Gymraeg ar amryw o bynciau trafod.
Madison Tazu
Madison Tazu
|
Magwyd Madison yn Aberteifi ond bu'n rhaid i athrawon ei gwahardd o'r gwersi Cymraeg yn yr ysgol gan nad oedd ganddi ddiddordeb yn y pwnc. Symudodd i Brighton pan oedd yn 17 oed ac wedyn bu'n teithio ar draws Ewrop. Wrth deithio cwrddodd â llawer o bobl fu'n gofyn iddi am iaith ei gwlad. Am y tro cyntaf yn ei bywyd roedd hi'n siomedig nad oedd hi'n gallu siarad Cymraeg. Penderfynodd symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg. Mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi ac wedi cyrraedd safon uchel yn barod.
• Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ar Awst 6 pan fydd hi'n noson i ddathlu 25 mlynedd y gystadleuaeth.