BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Mai 2008, 11:19 GMT 12:19 UK
Fali-Caerdydd: Teithwyr yn dyblu
Teithwyr yn Y Fali yn paratoi ar gyfer taith i Gaerdydd
Mae mwy na'r disgwyl yn defnyddio'r gwasanaeth

Flwyddyn ers i'r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ddechrau mae'r cwmni yn falch o'r llwyddiant.

Bu nifer y teithwyr yn llawer uwch na'r hyn gafodd ei ragweld yn wreiddiol.

Roedd Cwmni Highland Airways wedi gobeithio denu 7,500 o deithwyr yn y flwyddyn gynta ond mae'r cyfanswm yn ddwbl hynny.

Mae'r daith o Faes Awyr Y Fali ar Ynys Môn i Faes Awyr Caerdydd yn cymryd tua awr.

Ers dechrau'r gwasanaeth mae bron 15,000 wedi defnyddio'r gwasanaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu bron £2.5 miliwn am gyfnod o dair blynedd er mwyn cadw prisiau tocynnau yn isel.

Bendithion

Mae tocyn un ffordd yn llai na £50 a gall fod yn llawer is os yw teithiwr yn prynu ymlaen llaw.

Awyren ar fin gadael maes awyr Y Fali
Tua awr mae'r daith o'r gogledd i'r de

Dywedodd pennaeth datblygu economaidd Cyngor Ynys Môn, Sasha Wyn Davies, fod y gwasanaeth yn golygu bendithion i'r ynys.

"Mae'r gwasanaeth wedi bod yn llwyddiannus ... wedi helpu busnesau yn y gogledd i gyrraedd y de a chryfhau'r cysylltiadau busnes.

"Ac mae'n denu mwy o bobl o Gaerdydd i aros a dod i fyny i Sir Fôn a gogledd-orllewin Cymru."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai mwy o awyrennnau ar gael yn y dyfodol.

Agosáu

"Mae'n uno Cymru ac yn gwneud Maes Awyr Rhyngwladol Cymru o fewn cyrraedd pawb," meddai Catrin Ellis, llefarydd ar ran y maes awyr.

"Ac mae'n dod â'r de a'r gogledd yn nes at ei gilydd.

"Mae nifer y bobl sy'n mynd drwy'r maes awyr yn uwch - 2.1 miliwn yn defnyddio'r maes awyr am y tro cyntaf.

"Dyma siwrne drawiadol ac mae 'na bob math o bobl yn ei ddefnyddio, pobl fusnes a rhai sy'n hamddena."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr arain buddsoddi'n werth ei wario.

Roedd yn rhy fuan dweud, meddai, a fyddai mwy o gymhorthdal ar gael ymhen dwy flynedd neu a fyddai teithwyr yn gorfod talu'r gwir bris.



HEFYD
Ymddiheuro am ganslo taith awyr
08 Meh 07 |  Newyddion
Cychwyn taith awyr newydd
08 Mai 07 |  Newyddion
Teithiau awyr: 1,000 yn archebu
05 Mai 07 |  Newyddion
'Mesur gwerth gwasanaeth awyr'
11 Ebr 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^