BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Mai 2008, 14:43 GMT 15:43 UK
Estyn dylanwad y Ddeddf Iaith
Banc Lloegr
Fe fydd Banc Lloegr yn gorfod cydymffurfio gofynion Deddf Iaith Gymraeg

Fe fydd 57 o gyrff newydd, gan gynnwys Banc Lloegr a'r Post Brenhinol, yn gorfod cydymffurfio 'r Ddeddf Iaith.

Mae hyn yn golygu y bydd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yr hawl i orfodi'r cyrff i gyflwyno cynllun iaith fydd yn sicrhau fod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.

Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, wnaeth y cyhoeddiad.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r Gweinidog o "daflu llwch i lygaid pobl Cymru."

Dywedodd Mr Thomas y byddai Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn gwneud cais am bwerau ychwanegol.

"Rydyn ni ar hyn o bryd yn paratoi Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol er mwyn gofyn i San Steffan ddatganoli i'r cynulliad bwerau i ddeddfu ym maes yr iaith Gymraeg, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach yn fuan," meddai.

Mae'n debyg y bydd hynny'n digwydd yn yr haf.

"Ond mae'n bwysig ein bod ni hefyd yn defnyddio'r pwerau sydd gennym eisoes er mwyn cynnig dewis o wasanaethau Cymraeg a dwyieithog i'r cyhoedd," meddai.

'Ehangu'

"Mae'r byd wedi newid ers 1993 ac rydyn ni eisiau ehangu'r gwasanaethau dwyieithog neu Gymraeg sydd ar gael i bobl yn y dyfodol".

Eisoes mae mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y dylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd gynnwys cwmnau preifat.

Maen nhw'n dweud nad oes yna arwyddocd mawr i'r rhestr a gyhoeddwyd heddiw.

"Ar yr olwg gyntaf mae hon yn edrych yn rhestr addawol iawn, ond o edrych yn fanwl hon yw'r un rhestr yn union ag a gyhoeddwyd gan Alun Pugh y cyn weinidog Diwylliant flwyddyn yn l pan oedd 59 o sefydliadau arni, " meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

"Yn hytrach na dibynnu ar sbin gwleidyddol, galwn ar i Rhodri Glyn Thomas ganolbwyntio ei holl egnon ar sicrhau Deddf Iaith Newydd fydd yn cynnwys y sector breifat ac yn gwneud rhestrau fel yr un gafwyd heddiw yn ddiangen."

Ar hyn o bryd mae yna 426 o sefydliadau, tebyg i awdurdodau iechyd a chyrff cyhoeddus, yn gorfod darparu gwasanaeth dwyieithog.

Rhodri Glyn Thomas
Rhodri Glyn Thomas: Am gael mwy o bwerau

Dyw'r 57 o sefydliadau ar restr newydd Mr Thomas ddim yn cynnwys unrhyw sefydliad o'r sector preifat.

Mae'r rhestr yn cynnwys y Comisiwn Cystadlaethau, Chwaraeon UK, OFCOM, y Cyngor Prydeinig a'r Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd.

"Rydyn ni'n cefnogi'r Ddeddf Iaith yn llawn ac yn falch o'n cyraeddiadau mewn perthynas 'r Cynllun Iaith Gymraeg gwirfoddol sydd eleni yn 10 oed," meddai llefarydd ar ran Grŵp y Post Brenhinol.

"Ac rydyn ni'n parhau i gynnig gwasanaeth llawn dwyieithog i'n cwsmeriaid a pharhau i wneud hyn yn wirfoddol neu'n statudol."

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd fod digwyddiadau 2012 yn fwy na dim yn ymwneud Llundain.

"Ond fe fydd y rhain yn gemau i'r Deyrnas Unedig a phawb ar ei ennill.

"Fe fydd gwybodaeth am y gemau mewn amrywiol ieithoedd yn sicrhau ein bod ni'n cysylltu gyda chymunedau a busnesau ar draws y DU."

Mae Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, wedi croesawu cyhoeddiad Mr Thomas.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r cyrff hyn sy'n cynnig gwasanaeth i'r cyhoedd fel y gallan nhw gynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i gwsmeriaid a'u helpu i hyrwyddo'r gwasanaethau hynny fel bod siaradwyr Cymraeg yn eu defnyddio," meddai Ms Huws.

Egwyddor

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad yma os bydd yn caniatu i siaradwyr Cymraeg gael mynediad i fwy o wasanaethau cyhoeddus drwy'r iaith," meddai Paul Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Dreftadaeth.

Sefydlodd Deddf Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor fod y Gymraeg statws cyfartal 'r Saesneg ym maes gwasanaeth cyhoeddus a gweinyddiaeth cyfiawnder.

Mae gan Fwrdd yr Iaith yr hawl i orfodi unrhyw gorff cyhoeddus i lunio cynllun iaith.

Rhaid i'r cynllun nodi'r camau y dylid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y ddwy iaith statws cyfartal - cyn belled bod hynny'n addas o fewn yr amgylchiadau ac yn ymarferol.



HEFYD
Pwy yw'r 57 sefydliad?
08 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^