BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Mai 2008, 16:00 GMT 17:00 UK
Llosgfynydd: Miloedd yn gadael
Llosgfynydd Chaiten
Asesu'r sefyllfa: Arlywydd Chile Michelle Bachelet

Mae pobol dwy dre yn gorfod gadael eu cartrefi oherwydd llosgfynydd Chaiten ym Mhatagonia.

Ffrwydrodd y llosgfynydd ddydd Gwener, y tro cynta ers mwy na 9,000 o flynyddoedd.

Mae llwch sy'n tasgu o'r llosgfynydd, 760 milltir i'r de o brifddinas Chile, Santiago, wedi cyrraedd yr Ariannin ac ysgolion a maes awyr ym Mhatagonia wedi cau.

Erbyn hyn, mae mwy na 4,000 wedi gadael tre Chaiten, chwe milltir o'r llosgfynydd a channoedd yn aros i adael.

Ac mae Llynges Chile'n helpu rhai i adael yr ardal ynysig.

Mae pobol yn gadael Futaleufu, 44 milltir i'r dwyrain o'r llosgfynydd.

20 milltir

Mae tân a mwg yn tasgu 20 milltir i'r awyr.

Ysgol Gymraeg yr Andes
Mae llwch wedi disgyn fel eira mewn rhannau o'r Wladfa

Fe ddywedodd Rodrigo Rojas o'r Swyddfa Argyfwng Cenedlaethol: "Mae'r sefyllfa wedi dirywio.

"Y rheswm yw bod y llosgfynydd yn tasgu llwch a nwy - a hynny'n llawer mwy.

Mae arbenigwr wedi rhybuddio y gallai ffrwydriad mawr ddigwydd.

"Gallai hyn ddigwydd unrhyw amser," meddai Luis Lara o'r Gwasanaeth Daearegol a Mwyngloddio.

Fe ddywedodd Gill Stephen, athrawes yn Ysgol Gymraeg Esquel a Trevelin yn y Wladfa, fod y llwch "yn union fel eira".

"Roedd llwch mân ddydd Gwener ac mae wedi gwaethygu ers hynny.

"Erbyn hyn, mae modfedd o drwch."

'Masgiau'

Roedd yr awdurdodau wedi bod yn arllwys dŵr ar y ffyrdd a chau rhai ohonyn nhw, meddai.

"Maen nhw wedi argymell bod rhai ag asthma ddim yn mynd allan o gwbwl.

"Ac mae pawb yn gwisgo masgiau ... mae'r llwch yn fân iawn."

Roedd cyhoeddiad anarferol yn yr eisteddfod leol yr wythnos diwetha, meddai, nad oedd côr wedi cyrraedd am fod "llwch ar y ffordd".

Bu'n rhaid i Eisteddfodwyr wisgo masgiau oherwydd effaith y llwch.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^