|
Guto Thomas
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Collodd y Blaid Lafur eu grym ar y cadarnleoedd fel Sir y Fflint
|
Mae Plaid Cymru yn honni eu bod mewn trafodaethau i gyd-lywodraethu mewn bron i hanner cynghorau lleol Cymru ar ôl yr etholiadau lleol yr wythnos diwethaf.
Dim ond mewn pedwar cyngor y cafwyd mwyafrif clir er bod grwpiau Annibynnol hefyd yn rheoli ym Mhowys ac yn Sir Benfro.
Wedi iddyn nhw ennill rheolaeth dau gyngor sir mae'r Ceidwadwyr mewn trafodaethau pellach mewn tua hanner dwsin o gynghorau, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio rhannu grym mewn tua dwsin o gynghorau.
Wedi degawdau o reolaeth gymharol ddiwrthwynebiad, fe allai'r holl glymbleidiau yma adael y Blaid Lafur hyd yn oed ymhellach ar y cyrion gwleidyddol, a dim ond yn cyd-reoli mewn lleiafrif bach o gynghorau Cymru.
Daeth holl ganlyniadau nos Iau a dydd Gwener diwetha fel sioc i nifer - ond y gwir yw bod y chwyldro yma a symud o wlad gadarn sosialaidd i "Gymru - gwlad y glymblaid" wedi bod yn broses raddol dros y degawd ddiwetha.
Gwendid Llafur
Wedi'r canlyniadau trychinebus i'r Blaid Lafur ar draws Cymru, dim ond mewn dau awdurdod gallai'r blaid hawlio rheolaeth - yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn Rhondda Cynon Taf.
Daeth llwyddiant ym Mhen-y-bont ar Ogwr serch hynny, a'r tebygrwydd yw y bydd cytundeb gyda rhai o'r aelodau annibynnol yn ddigon i sicrhau rheolaeth y cyngor, wedi pedair blynedd o "Glymblaid yr Enfys" dan arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae sibrydion hefyd y gallai'r grŵp Llafur yng Nghaerfyrddin ail-gydio yn y glymblaid gyda'r grŵp Annibynnol fu'n rheoli ers 2004.
Tu hwnt i hynny, bach iawn o ddathlu sy'n debygol - wrth i'r blaid obeithio cymryd rhan wrth reoli Conwy, a dim ond yr aelodau mwya optimistaidd yn credu y gallan nhw ddal eu gafael mewn clymbleidiau yn Sir y Fflint, Merthyr Tudful neu yng Nghasnewydd.
Gwlad y glymblaid
Er mwyn deall sut mae grym y Blaid Lafur wedi cael ei danseilio gymaint, mae'n rhaid deall cyd-destun a natur yr holl drafodaethau eraill sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Plaid Cymru ydi'r blaid fwya ond ddim â mwyafrif clir yng Ngwynedd
|
Mae Plaid Cymru mewn sefyllfa gref yng Ngwynedd, Caerffili ac yng Ngheredigion, ac eisoes wedi ymuno â chlymblaid yn Ynys Môn gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, Ceidwadwyr a nifer o aelodau annibynnol.
Mae sibrydion hefyd eu bod mewn trafodaethau allweddol gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd, ac yn debygol o chwarae rhan wrth reoli cynghorau Conwy a Thorfaen.
Fe allai Plaid Cymru hefyd rannu rhywfaint o rym yn Wrecsam a Sir y Fflint - er bod eu llwyddiant wrth ddyblu nifer eu cynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin yn annhebygol o arwain at reolaeth y cyngor.
Adfywiad y Ceidwadwyr?
Wedi cryfhau eu gafael ar Sir Fynwy ac ennill rheolaeth Bro Morgannwg, mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi ymestyn eu dylanwad dros lywodraeth leol, trwy ymuno â chlymblaid i reoli Ynys Môn.
Mae sibrydion y gallai'r blaid gymryd rhan - neu hyd yn oed arwain - un o gyn-gadarnleoedd y Blaid Lafur, ar gyngor Torfaen.
Ond er gwaetha'r ffaith taw'r Torïaid yw'r blaid fwya yng Nghonwy, mae cytundeb rhwng y pleidiau eraill yn debygol o'u cadw ar feinciau'r wrthblaid - yn enwedig wrth i Blaid Cymru a'r Blaid Lafur frwydro gyda'r Ceidwadwyr am reolaeth seddi etholaethol yn y Cynulliad ac yn San Steffan.
Mae sicrhau grym yng Nghasnewydd hefyd yn bosib - er y gallai taro bargen gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn anodd, yn sgil perthynas hanesyddol elyniaethus rhwng y ddwy garfan.
Mae trafodaethau hefyd yn parhau yn Sir y Fflint ac yn Wrecsam.
Dathliadau'r Democratiaid Rhyddfrydol
Er gwaetha'r ffaith taw'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r lleiaf o'r prif bleidiau Cymreig - â dim ond 162 o gynghorwyr - fe allai gallu'r blaid i ennill seddi allweddol bwysig eu gosod mewn safle hynod o gryf, o ran yr holl glymbleidiau posib allai gael eu ffurfio.
Mae'n ymddangos bod cytundebau'n agos dros ben yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, tra bo clymblaid eisoes wedi ffurfio ar ynys Môn.
Mae'n debygol bydd y blaid yn arwain clymblaid yn Wrecsam, ac fe allen nhw chwarae rôl allweddol hefyd mewn unrhyw gytundeb ar Gyngor Sir y Fflint.
Wedi iddyn nhw ennill seddi ym Mlaenau Gwent, Conwy, Gwynedd ac yn Nhorfaen, heb sôn am chwech o gynghorwyr yn Merthyr Tudful, yna fe allai'r blaid chwarae rôl ddylanwadol.
A phetai clymbleidiau addas yn cael eu creu yng Ngheredigion ac yng Nghasnewydd, yna gallai eu dylanwad fod hyd yn oed yn fwy nodedig.
Ond mewn byd gwleidyddol Gymreig sydd mor ansicr a newidiol, byddai unrhyw sôn am gytundebau sydyn a chwim yn eithriadol o annoeth - gyda'r profiad ymysg sylwebwyr o'r holl drafodaethau i ffurfio clymblaid Llywodraeth y Cynulliad, yn awgrymu bydd rhaid aros wythnosau cyn daw'r broses o ffurfio tirlun newydd ein cynghorau Cymreig i ben.