BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Mai 2008, 13:56 GMT 14:56 UK
£5m yn fwy at addysg gynradd
Meithrinfa
Dysgu drwy chwarae fydd y plant o dan y cynllun newydd

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn o arian ychwanegol ar gael i gyflwyno cynllun Cyfnod Sylfaen yn ysgolion Cymru.

Dywedodd Jane Hutt y byddai'r arian ar gyfer y newidiadau yn y modd y mae plant rhwng tair a saith oed yn cael eu dysgu.

Mae hi'n gobeithio y bydd yr arian yn golygu y bydd un athro neu athrawes ar gyfer wyth o blant rhwng 3 a 5 oed.

Gwnaeth Ms Hutt y cyhoeddiad yn y Senedd dydd Mercher ar ôl cyfarfod gyda'r awdurdodau addysg a'r undebau oedd wedi honni nad oedd digon o fuddsoddi yn y cynllun.

Yn ôl Ms Hutt, roedd awdurdodau lleol ar fai am beidio â rhoi digon o wybodaeth am eu hanghenion ar gyfer y cynllun newydd.

Yr wythnos diwethaf cytunodd Ms Hutt fod angen mwy o arian ar gyfer y cynllun.

Bygwth

Mae nifer o ysgolion ar hyn o bryd yn treialu'r cynllun cyn ei gyflwyno'n genedlaethol ym mis Medi.

Fe wnaeth nifer o athrawon a phrifathrawon fygwth peidio â chymryd rhan yn y cynllun oherwydd diffyg arian.

Yn wreiddiol, cafodd £107 miliwn ei neilltuo ar gyfer y cynllun gan Lywodraeth y Cynulliad.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Ms Hutt, dywedodd undeb y prif athrawon, NHTA, eu bod yn croesawu'r arian ond fod y swm yn gwbl annigonol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno i bob un ysgol yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg, Alun Cairns, na fydd y £5 miliwn yn gwneud "fawr o argraff ar y gwendidau yn y cynllun sydd wedi cael eu tanlinellu gan athrawon ledled Cymru.

Dywedodd fod Ms Hutt yn prysur golli "hyder pobl o fewn y byd addysg."



HEFYD
Addysg: Cyfadde prinder arian
29 Ebr 08 |  Newyddion
Addysg 'o dan y chwyddwydr'
28 Ebr 08 |  Newyddion
'Miloedd' o swyddi gofal plant
29 Awst 07 |  Newyddion
Etholiad: Addysg yn bwnc trafod
25 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^