BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 7 Mai 2008, 11:21 GMT 12:21 UK
Gwobr 'annisgwyl' i Elwyn
Cyflwyno'r tlws i Elwyn
Derbyn y tlws oddi wrth Aneurin Jones. Yn y llun mae Bethan Gwanas ac Alun Ifans

Mae'r cartwnydd, darlunydd a'r awdur Elwyn Ioan wedi derbyn tlws cyfraniad oes i'r diwydiant cyhoeddi.

Aneurin Jones, cadeirydd y panel dyfarnu, gyflwynodd y tlws o waith y crefftwr Des Davies ar ddiwedd Gŵyl Bedwen Lyfrau Crymych 2008.

"Mae'n eithaf anrhydedd ac yn gwbl annisgwyl," meddai Elwyn.

"Dwi wrthi ers blynyddoedd ac yn dueddol o fwynhau gwneud cartwnau yn fwy na deunydd realistig."

Yn ogystal dylunio nifer o bosteri yn y chwedegau a'r saithdegau, creodd gyfresi poblogaidd i blant fel Cadwgan y Llygoden o'r Lleuad, Ici'r Ddl a Wali Wmff.

Am ddegawdau mae wedi cyfrannu at gylchgronau fel Lol, Wcw a chylchgronau'r Urdd a chafodd sawl cartŵn yn y cylchgrawn Private Eye.

'Byrlymus'

Fe gafodd ei eni ym Mhen-y-bont Rhydybeddau ger Aberystwyth yn 1947.

Aeth i Ysgol Gynradd Trefeurig cyn mynd i Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth.

Wedyn roedd cyfnod yng Ngholeg Celf Caerfyrddin.

Ymunodd staff Robat Gruffudd yn y Lolfa a fe oedd yr aelod cynta.

"Roedd yn gyfnod byrlymus, popeth yn newydd ac yn gyfnod o deimlo'r ffordd.

"Ac roedd y wasg yn brysur o'r eiliad gyntaf. Dim ond Robat oedd yno am flwyddyn ac ymunais i yn yr ail flwyddyn. "

Ar l 18 mlynedd yno aeth i weithio ar ei liwt ei hun, gan wneud gwaith i bob un o brif weisg Cymru yn ei stiwdio yn Aberystwyth.

'Penderfynol'

"Roedd y penderfyniad i fynd i weithio ar fy liwt fy hun yn eitha anodd ond ro'n i'n benderfynol o wneud. Ro'n i eisiau canolbwyntio ar eglurlunio."

Ond nid yw'n ystyried ymddeol eto.

"Ro'n i'n brysur ofnadwy y llynedd - wnes i ddim cymryd gwyliau.

"Dwi wedi cymryd pethe ychydig yn fwy hamddenol eleni ond na, fydda i ddim yn ymddeol.

"Fe fydda i'n marw yn yr harnes."



HEFYD
Mwy o lyfrau'n cael eu gwerthu
01 Mai 08 |  Newyddion
'Llyfr pwysica' ar y silffoedd
31 Ion 08 |  Newyddion
Byd y nofel: Adlewyrchu bwrlwm
24 Tach 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^