BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 8 Mai 2008, 06:03 GMT 07:03 UK
Neges Ewyllys Da 2008

Dyma Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y byd 2008.

EIN HEDDIW FYDD EIN HYFORY

Tymheredd a hafau'n cynhesu, capanau rhew yn merioli, lefelau'r môr yn codi. Sychder a llifogydd. Nadoligau gwyn y gorffennol yn diflannu. Ond tydy o ddim yn newyddion drwg i gyd. O leia' fe gawn ni dorheulo yng Nghymru a chynhyrchu gwin lleol. Pa mor naïf allwn ni fod?

Pa wahaniaeth allwn ni wneud?
Mae popeth bach yn help - ail gylchu a defnyddio bylbiau addas. Mewn gwledydd tlawd tydyn nhw ddim yn ymateb i newid hinsawdd drwy newid bylb golau. Yn aml fydd ganddyn nhw ddim bylb a dim trydan. Wrth wynebu trychinebau fydd ganddyn nhw ddim yr hanfodion ar gyfer bodoli chwaith.

Mater o fod yn anlwcus - dyna'i gyd!
Dim o gwbl. Mae'n annheg ac yn anghyfiawn. Y tlawd sy'n cyfrannu leiaf i'r newid hinsawdd, ond y tlawd gaiff eu heffeithio fwyaf.

Gellir mynd i'r afael â chynhesu byd-eang ac osgoi trychinebau dim ond os ydi pawb yn cydweithio ac yn ymateb ar unwaith. Gwahoddwn ieuenctid y byd i ymuno gyda ni bobol ifanc Cymru i wynebu'r her. Mae gan bob person, yn ifanc a hen ei ran i chwarae, ac mae gan bob cenedl, tlawd a chyfoethog, ei rhan i sicrhau dyfodol diogel. Ein heddiw fydd ein hyfory.



HEFYD
Ffurf newydd ar Neges Ewyllys Da
08 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^