Does gan yr un blaid fwyafrif clir ar Gyngor Gwynedd
|
Mae cynghorwyr Llais Gwynedd wedi penderfynu na fyddan nhw'n gallu cyd-weithio â chynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.
Roedd grŵp cynghorwyr newydd Llais Gwynedd yn cyfarfod am y tro cyntaf nos Lun ers yr etholiadau lleol ar Fai 1.
Cafodd 12 cynghorydd y blaid gafodd ei sefydlu i wrthwynebu polisi Cyngor Gwynedd o ad-drefnu ysgolion cynradd eu hethol yn yr etholiadau.
Plaid Cymru oedd yn rheoli'r cyngor tan yr wythnos diwethaf.
Collodd rhai o gynghorwyr amlyca Plaid Cymru eu seddi, gan gynnwys cyn-gadeirydd y cyngor, Richard Parry Hughes, a Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan.
Wedi'r cyfarfod nos Lun dywedodd Llais Gwynedd y bydden nhw'n cysylltu â charfanau eraill i drafod ffurfio clymblaid.
'Effeithiol'
Mae disgwyl i grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, y grŵp mwya ar y cyngor, o fewn diwrnodau i ethol swyddogion.
Dywedodd llefarydd fod canlyniad yr etholiad yn siomedig gan eu bod dair sedd yn brin o ennill rheolaeth lwyr.
Byddai Plaid Cymru, meddai, yn trafod â grwpiau "eraill" er mwyn sicrhau "gweinyddiaeth effeithiol".
 |
NIFER CYNGHORWYR GWYNEDD
Plaid Cymru 35
Grŵp Annibynnol 18
Llais Gwynedd 12
Democratiaid Rhyddfrydol 5
Llafur 4
Mae 75 sedd ar y cyngor. Doedd dim etholiad mewn un ward wedi marwolaeth ymgeisydd ac fe fydd yn cael ei gynnal 35 niwrnod ar ôl Mai 1.
|
Owain Williams gafodd ei benodi i arwain grŵp Llais Gwynedd.
"Mae'r etholwyr ar garreg y drws wedi gwneud y penderfyniad ... os byddwn ni'n neidio i'r gwely efo Plaid Cymru ar ôl yr etholiadau dwi'n meddwl y byddai'r werin yn edrych yn od arnon ni," meddai Mr Williams.
"Fe wnaeth miloedd o bobl bleidleisio i Llais Gwynedd yn yr etholiadau yn union yn erbyn cynlluniau Plaid Cymru."
Dywedodd ei bod hi'n amlwg y byddai rhaid i Blaid Cymru ollwng y cynlluniau ond bod 'na ddigon o gynghorwyr eraill i redeg y cyngor.
"Mae'n beth da iawn i gyd-weithio a chael clymblaid yn lle bod un blaid efo mwyafrif llethol," meddai.
"Mae petha yn mynd yn ddyfnach nag ysgolion ... mae angen taclo sawl problem yn ein cymunedau.
"Ond mae angen taflu'r cynllun dieflig yma sydd am gau bron i 30 o ysgolion a ffederaleiddio degau o ysgolion eraill ... eu mi fydd cymunedau yn marw."