Cafodd y cystadleuwyr gyfle i sgwrsio gyda'i gilydd
|
Eleni mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu 25 mlynedd.
Mae'r gystadleuaeth wedi hen ennill ei lle fel un o brif ddigwyddiadau'r Eisteddfod Genedlaethol.
Dros y penwythnos cafodd y rownd gyn-derfynol ar gyfer y gystadleuaeth eleni ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Y pedwar yn y rownd derfynol eleni ydi Madison Tazu o Aberteifi;
Jenny Henn o Cwm, Glyn Ebwy; Michael Evans o Gaerdydd a
Martin Baldry o Wrecsam.
Roedd 'na 19 wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ac yn gobeithio plesio'r beirniaid, Aled Davies, Sara Edwards a Siân Lloyd.
Roedden nhw'n chwilio am bobl sydd wedi meistroli'r iaith ond roedd angen mwy na hynny hefyd yn ôl un o'r beirniaid, y cyflwynydd tywydd Siân Lloyd.
"Doedden ni ddim jest yn chwilio am gywirdeb iaith a geirfa eang ond yn chwilio am rywbeth mwy na hynny, am rywbeth dyfnach," meddai.
Llyfryn
"Chwilio am bobl a allai ysbrydoli ac ysgogi eraill o ddysgu'r iaith, am naturioldeb a bach o bersonoliaeth yn disgleirio a phobl oedd yn cyfrannu at y gymuned."
Gan fod y gystadleuaeth yn 25 oed eleni mae 'na addewid o'r "croeso mwya" i ddysgwyr yng Nghaerdydd ym mis Awst.
"Mae 'na lot yn mynd ymlaen," meddai Gwenllïan Willis, Swyddog Dysgwyr yr Eisteddfod.
Y tri beirniad gyda'r pedwar fydd yn y rownd derfynol
|
"Mae ganddon ni lyfryn bach, Yr Ŵyl yn eich Poced, ar gyfer dysgwyr a'r di-Gymraeg sy'n rhoi gwybodaeth am yr Eisteddfod.
"Mae 'na nosweithiau cymdeithasol yn mynd ymlaen a chyrsiau blasu yn y Gymraeg i'r cyhoedd gan gynnwys gyrwyr tacsi'r ddinas."
Ar ôl gwaith caled y cystadlu, cafodd y cystadleuwyr gyfle i ymlacio wrth wrando ar y gantores Heather Jones.
Un o'r pedwar fydd yn mynd drwodd i'r rownd derfynol ydi Jenny Henn ac roedd hi wedi cael diwrnod wrth ei bodd.
"Mae'n siawns go iawn i gwrdd â phobl o bob rhan o Gymru a sgwrsio gyda nhw.
"Cael cyfle hefyd i gwrdd â phobl enwog y sianel fel Siân Lloyd a Sara Edwards.
"Mae'n brofiad ardderchog yn fy marn i."
Caiff enillydd Dysgwr y Flwyddyn ei gyhoeddi yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac mi fydd 'na barti mawr bryd hynny hefyd i ddathlu pen-blwydd arbennig y gystadleuaeth.