BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Mai 2008, 15:48 GMT 16:48 UK
Dem Rhydd: Cadw eu dinasoedd?
Pleidlais
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol 35 o gynghorwyr yng Nghaerdydd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hapus gyda'u perfformiad yn y ddwy ddinas fwyaf yng Nghymru.

Methiant fu ymdrech Llafur i gipio rheolaeth y cynghorau yng Nghaerdydd ac Abertawe, a'r un oedd yr hanes yn Wrecsam.

Ond daeth Llafur o fewn trwch blewyn i ail gipio Pen-y-bont ar Ogwr.

Led led Cymru roedd perfformiad y Democratiaid Rhyddfrydol yn un o gynnydd bychan, gyda 14 yn fwy o gynghorwyr nag yn 2004.

Cyn yr etholiadau roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn rheoli'r pedwar cyngor drwy glymblaid.

Yng Nghaerdydd, y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r blaid fwya, ond yn parhau heb fwyafrif clir.

Prif blaid

Mae ganddyn nhw 35 o gynghorwyr allan o gyfanswm o 75. Y Ceidwadwyr yw'r ail blaid yno bellach gyda 17.

Ym Mhen-y-bont, mae gan Lafur 27 o gynghorwyr allan o gyfanswm o 54, union hanner.

Yno fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddwy sedd, gyda Llafur yn cipio pump.

Yn Wrecsam, y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r ail grŵp mwyaf, ar ôl y garfan annibynnol.

Mae gan y garfan 'annibynnol' 20 o seddi, y Democratiaid Rhyddfrydol 12 a Llafur 11.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau yn ail brif blaid i Lafur yn Abertawe - yno fe gipwyd tair sedd yn ychwanegol.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^