Collodd Llafur reolaeth yn 2004
|
Mae Llafur wedi methu ag adennill Abertawe ar ôl colli rheolaeth ar y cyngor yn 2004.
Collodd dwy sedd tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio tair.
Mae gan Llafur gyfanswm o 30 sedd tra bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol 23.
Mae'r Ceidwadwyr wedi cadw eu gafael ar pedair sedd, mae gan Blaid Cymru un yn unig a phleidiau eraill 14.
Collodd Plaid Cymru dair sedd yn ardal Coced y ddinas.
Yn 2004 collodd Llafur reolaeth ar y ddinas ar ôl bod mewn grym ers yr wythdegau cynnar.
Roedd nifer y rhai bleidleisiodd yn 38.19%.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot cadarnhaodd arweinydd y grŵp Llafur, Derek Vaughan, fod ei blaid wedi adennill rheolaeth ar ôl cipio 33 o seddau.
Cynyddodd Llafur ei mwyafrif yn y cyngor o 6 i 10 sedd.