BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Mai 2008, 16:23 GMT 17:23 UK
Ceidwadwyr: Noson lwyddiannus
David Cameron yn Y Barri ddydd Gwener gydag Alun Cairns a Nick Bourne
David Cameron: Cipio Bro Morgannwg yn "foment fawr" i'w blaid

Roedd hi'n noson lwyddiannus i'r Ceidwadwyr yng Nghymru wrth i'r blaid ddal gafael ar yr unig gyngor dan eu rheolaeth a chipio Cyngor Bro Morgannwg.

Llwydodd y blaid i ddal eu gafael ar Gyngor Sir Fynwy a chynyddu eu mwyafrif.

Fe fu'r arweinydd Ceidwadol David Cameron yn ymweld â'r Barri er mwyn diolch i bleidleiswyr Bro Morgannwg am gefnogi ei blaid.

Bu'n noson dda yn ogystal i ymgeiswyr Ceidwadol ym Mhowys, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chaerdydd.

'Moment fawr'

Enillodd y Ceidwadwyr 25 sedd ar gyngor Bro Morgannwg - pump yn fwy na'r etholiad cyffredinol diwethaf.

Bu newid o fewn rheolaeth y cyngor ers yr etholiadau diwethaf bedair blynedd yn ôl.

Y Ceidwadwyr oedd â'r nifer mwyaf o gynghorwyr ar ôl etholiad 2004 er nad oedd ganddyn nhw fwyafrif clir.

Tan fis Rhagfyr 2006 fe lwyddon nhw i reoli fel lleiafrif ond wedi ffrae am gyfrifon y cyngor, cipiodd y Blaid Lafur yr awenau gyda chymorth Plaid Cymru.

Roedd y Ceidwadwyr ar ben eu digon ar ôl llwyddo i ail-gipio'r cyngor.

Wrth annerch cefnogwyr yn Y Barri dywedodd Mr Cameron ei fod yn "foment fawr" i'w blaid.

"Gallwn ni wir adeiladu o'r fan hyn, nid adeiladu ar fethiannau Llafur ond profi i bobl y gallwn ni gyflawni'r newidiadau y maen nhw'n dymuno eu gweld," meddai.

Cipio seddi

Y Ceidwadwyr bellach yw ail blaid fwyaf Cyngor Caerdydd gan gipio saith sedd oddi wrth y Blaid Lafur yn yr Eglwys Newydd, Pontprennau, Pentyrch, Radyr a Thredelerch.

Mae'r Blaid Lafur nawr yn y drydydd safle yn y brifddinas gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol fel y mwyafrif.

Llwyddodd y Ceidwadwyr hefyd i gipio naw o seddi ym Mhowys, lle nad oedd yr un cynghorydd gan y blaid.

Yn Sir y Fflint mae'r Ceidwadwyr wedi cipio naw sedd, sy'n gynnydd o bump.

Cafodd cyn AC Llafur Delyn, Alison Halford, ei hethol yn gynghorydd Ceidwadol yn Ewlo.

Bu Ceidwadwyr Conwy hefyd yn dathlu wrth gynyddu nifer eu seddi o 14 i 22.

Ac yn Sir Ddinbych cipiodd y Ceidwadwyr naw sedd i gyrraedd cyfanswm o 18.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Nick Bourne AC mae'r canlyniadau yn "fuddugoliaeth" i'r blaid.

Mewn datganiad dywedodd: "Mae'r etholiad hwn yn drychineb i Lafur ... wrthi'r Ceidwadwyr ennill seddi ar gynghorau ymhob rhan o gymru mae cefnogaeth y blaid Lafur wedi diflannu."



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^