BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 2 Mai 2008, 10:57 GMT 11:57 UK
Cytundeb 300m i gwmni awyrofod
Airbus A380 ar ei thaith gyntaf
Mae Magellan yn cyflogi tua 350 o bobl yn Wrecsam

Mae cwmni awyrofod yn Wrecsam wedi cael cytundeb gyda Airbus gwerth 300 miliwn a fydd yn sicrhau gwaith yno am bedair blynedd.

Bydd Magellan Aerospace yn cynyddu'r nifer o gydrannau adenydd y maen nhw'n cynhyrchu yn ogystal chynhyrchu rhannau newydd ar gyfer gwaith yn ffatroedd Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint a Filton ger Bryste.

Mae Magellan yn cyflogi tua 350 o bobl yn Wrecsam.

Dywedodd Phil Underwood, rheolwr cyffredinol Magellan yn y Deyrnas Unedig, bod y cytundeb yn "newyddion da iawn" ar gyfer y safle.

Dywedodd ei fod yn rhy gynnar i sn am swyddi newydd, gan y gall peiriannau newydd wneud peth o'r gwaith ychwanegol.

"Bydd gennym allu gweithgynhyrchu o safon byd-eang a'r gallu i fod yn hynod gystadleuol yn y farchnad awyrofod ar draws y byd."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^