Ymddangosodd y faner hon ar bont dros ffordd osgoi Caernarfon
|
Mae Plaid Cymru wedi colli rheolaeth ar yr unig gyngor yr oedden nhw'n ei reoli yng Nghymru.
Wedi'r canlyniadau does gan y blaid ddim mwyafrif ar Gyngor Gwynedd.
Fe wnaeth Llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, ac arweinydd y blaid ar Gyngor Gwynedd, Richard Parry Hughes, golli eu seddi i ymgeiswyr Llais Gwynedd.
Ond er gwaetha'i noson drychinebus yng Ngwynedd mae gan y blaid y nifer ucha o gynghorwyr drwy Gymru yn ei hanes sef 204.
Mae'n gynnydd o 34 sedd ers 2004.
Yng Ngheredigion fe wnaeth ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru, Penri James, golli ei sedd.
Roedd Mr James yn gyn-arweinydd grŵp y blaid ar y cyngor.
Er colli'r sedd hon fe lwyddodd y blaid i gael y mwyafrif o seddi ond ddim digon i reoli'n llwyr.
Cipio seddi
Yng Nghaerffili llwyddodd y blaid i ennill chwe sedd ychwanegol i godi eu cyfanswm i 32 sedd, yr un nifer â Llafur.
Maen nhw hefyd wedi cipio seddi ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Ddinbych, Conwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf.
Yn Wrecsam llwyddodd y blaid i gipio tair sedd oddi ar y Blaid Lafur.
Mwyafrif enfawr
Fodd bynnag mae Plaid Cymru wedi ennill tir yn sir Gaerfyddin ac fe enillodd arweinydd grwp Plaid Cymru Peter Hughes Griffiths ei sedd gydag mwyafrif enfawr.
Cipiodd y blaid 14 sedd i gyd gan gynnwys pum sedd gan y blaid Lafur yn Llanelli.
Doedd hi ddim yn noson gystal i'r blaid yn Abertawe.
Dim ond un cynghorydd sy gan y blaid bellach yn y ddinas ar ôl colli tair sedd yn ardal Coced i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
'Siomedig'
Yng Ngwynedd, mae'n debyg bod Plaid Cymru yn talu'r pris am bolisi Cyngor Gwynedd i ad-drefnu ysgolion cynradd y sir.
Cafodd Llais Gwynedd ei sefydlu i wrthwynebu'r cynlluniau i ad-drefnu addysg.
"Mae hwn yn etholiad lle mae pobl yn teimlo fel rhoi cic i'r arweinwyr, cael gwared â'r hen sefyllfa a 'da ni wedi diodde yn sgîl hynny," meddai Mr Iwan.
Dywed Dafydd Iwan bod rhaid derbyn ennill a cholli
|
"Dwi'n credu yn gry mewn democratiaeth, dwi'n credu yn gry mewn democratiaeth leol.
"Os ydach chi'n credu yn gry mewn democratiaeth leol yna mae'n rhaid i chi ddysgu colli yn ogystal ag ennill."
Enillodd Llais Gwynedd 12 sedd i gyd.
Mae gan Blaid Cymru gyfanswm o 35 cynghorydd yng Ngwynedd wedi iddynt golli wyth sedd.