Rhodri Morgan: "Dwi'n derbyn ei bod yn noson drychinebus"
|
Roedd hi'n noson siomedig i'r Blaid Lafur wrth iddyn nhw golli grym mewn rhai o'r siroedd oedd yn cael eu cydnabod yn gadarnleoedd traddodiadol.
Collodd y blaid rym ar gynghorau Caerffili, Sir y Fflint, Blaenau Gwent, Torfaen, Merthyr Tudful a Chasnewydd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi ddal eu gafael ar Sir Fynwy a chipio grym ym Mro Morgannwg.
Fe wnaeth Plaid Cymru golli rheolaeth ar Gyngor Gwynedd, yr unig gyngor yr oedd yn ei reoli.
Ond fe lwyddodd y blaid i sicrhau mwy o gynghorwyr led led Cymru nag erioed o'r blaen, cyfanswm o 204.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cryfhau eu gafael ar Gaerdydd. Y nhw ydi'r blaid fwyaf gyda 35 o'r 75 sedd.
Fe gollodd Llafur 14 o seddi yno.
Fe gollodd Llafur reolaeth ar chwe chyngor
|
Dros Gymru mae Llafur yn rheoli dau gyngor, mae dau gyngor dan reolaeth y Ceidwadwyr a does dim un blaid yn rheoli'n llwyr yng ngweddill y cynghorau.
'Trychinebus'
Mae'r Blaid Lafur wedi cael canlyniadau siomedig drwy Gymru a Lloegr.
Hwn yw perfformiad gwaetha Llafur mewn etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr ers 40 mlynedd.
"Dwi'n derbyn ei bod yn noson drychinebus i ni, mae'n atgof o nosweithiau tebyg yn y 1960au a 1970au," meddai Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.
"Mae'r penawdau dros y misoedd diwethaf wedi bod yn erbyn Llafur yn gyffredinol a dwi ddim yn cofio unrhyw gyfnod tebyg.
"Mae bys bai yn cael ei bwyntio tuag at bwy bynnag sydd mewn grym.
"Dydi'r canlyniadau ddim yn arwyddocaol at y canlyniadau etholiadau cyffredinol.
"Mae'n edrych yn debyg bod y llanw yn mynd yn ein herbyn, ac mae'n holl ymdrechion i geisio perswadio pobl mai etholiad lleol ydi hwn wedi methu."
Roedd yna ychydig o newyddion da i Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywed y blaid mai nhw fydd yn rheoli'r cyngor wedi i ddau aelod annibynnol gytuno i ffurfio clymblaid.
Yno mae gan y blaid 27 cynghorydd allan o gyfanswm o 54.
Mae Ron Davies, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn dychwelyd i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd annibynnol yng Nghaerffili ac fe fydd ei wraig yno hefyd.
Cafodd Lyn Hughes ei hethol i'r cyngor fel cynghorydd Plaid Cymru.
Roedd hi'n noson lwyddiannus i'r Ceidwadwyr.
Fe lwyddwyd i gadw gafael ar Sir Fynwy a chipio Bro Morgannwg.
Yn ogystal fe lwyddodd y Ceidwadwyr gipio naw sedd ym Mhowys lle nad oedd yr un cynghorydd gan y blaid, ac fe gynyddwyd nifer eu cynghorwyr yng Nghonwy o 14 i 22.
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Nick Bourne AC mae'r canlyniadau yn "fuddugoliaeth" i'r blaid.
Mewn datganiad dywedodd: "Mae'r etholiad hwn yn drychineb i Lafur ... wrthi'r Ceidwadwyr ennill seddi ar gynghorau ymhob rhan o Gymru mae cefnogaeth y blaid Lafur wedi diflannu."
Fe wnaeth y Blaid Lafur ddal eu gafael ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, ond gyda llai o fwyafrif.
Ad-drefnu addysg
Mae Plaid Cymru wedi cael noson siomedig yng Ngwynedd ar ôl i'r blaid golli rheolaeth a bod rhai o ffigyrau amlwg wedi colli eu seddi.
Colli wnaeth Llywydd y Blaid, Dafydd Iwan, a chyn-arweinydd y Cyngor, Richard Parry Hughes.
Collodd y ddau i ymgeiswyr Llais Gwynedd gafodd ei sefydlu i frwydro yn erbyn polisi'r cyngor o ad-drefnu addysg yn y sir.
Yng Ngheredigion mae 'na le gan Blaid Cymru i ddathlu gan mai nhw bellach ydi'r blaid fwya ond does ganddyn nhw ddim mwyafrif.
Ond fe wnaeth darpar ymgeisydd seneddol y blaid yno, Penri James, golli ei sedd.
Roedd 'na gyfle i ethol 1,200 o gynghorwyr yng Nghymru
|
Fe wnaeth y Blaid yn dda yng Nghaerffili lle mae ganddynt 32 o gynghorwyr, yr un nifer â Llafur, gyda 9 aelod annibynnol.
Yng Nghaerfyrddin fe enillodd Plaid Cymru 14 o seddi ychwanegol, gyda Llafur yn colli 14.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad, fod y canlyniadau yng Ngwynedd yn "siomedig a bod gwersi i'w dysgu."
"Ar ôl dweud hynny rydym wedi cael llwyddiant ym mhob rhan o Gymru, mewn ardaloedd trefol yn ogystal ag ardaloedd gwledig."ll
'Ardderchog'
Yng Nghaerdydd trydydd ydi'r Blaid Lafur y tu ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr.
Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol gynyddu nifer eu cynghorwyr yn y brifddinas.
Maen nhw hefyd yn obeithiol y byddan nhw yn cadw eu gafael ar rym drwy glymblaid yn Abertawe ar ôl cipio nifer o seddi ac ym Merthyr Tudful maen nhw wedi llwyddo i ennill chwe sedd lle nad oedd ganddyn nhw'r un cynghorydd yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.
Dywedodd Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod y blaid wedi cael "noson dda."