Cyngor: Wedi wynebu problemau tai
|
Mae Llafur wedi colli rheolaeth ar Sir y Fflint, yr unig awdurdod yr oedd yn ei reoli yn y gogledd.
Yn 2004 roedd ganddi 37 o seddau ond erbyn hyn mae ganddi 22.
Dywedodd y garfan Annibynnol, sy wedi ennill 26 o seddau, eu bod am reoli heb Lafur.
Roedd Llafur wedi bod mewn grym ers i'r cyngor gael ei sefydlu yn 1996 ond roedd yr AS lleol David Hanson wedi rhybuddio y byddai noson yr etholiad yn "anodd".
Wrth i'r cyfri ddechrau, dywedodd wrth BBC Cymru: "Rydyn ni'n mynd i golli seddau ac wedi colli seddau."
 |
PWY OEDD YN RHEDEG Y CYNGHORAU
Sir Ddinbych: Y Garfan Annibynnol/Ceidwadwyr/Plaid Cymru
Sir y Fflint:: Llafur
Wrecsam: Bwrdd y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei reoli
|
Mae'r cyngor wedi wynebu problemau anodd, yn enwedig ym maes tai.
Yn 2004 cafodd y cyngor ei orchymyn i dalu £111,860 i gyn-weithiwr oherwydd ei ymateb iddo wedi iddo ddweud ei fod yn poeni am faterion ariannol.
Dywedodd Mr Hanson fod materion Prydeinig wedi effeithio ar etholwyr.
"Mae'r band treth 10c yn bwnc trafod anodd.
"Ac mae sgileffeithiau'r holl beth wedi bod yn annisgwyl.
Cafodd cyn AC Llafur Delyn, Alison Halford, ei hethol yn gynghorydd Ceidwadol yn Ewlo.