Y garfan Annibynnol a'r Democratiaid Rhyddfrydol oedd mewn grym
|
Mae Plaid Cymru wedi methu â chipio Cyngor Ceredigion sy heb reolaeth lwyr.
Fe enillodd Plaid Cymru 19 sedd, 3 sedd yn brin o'r hyn oedd ei angen er mwyn rheoli'r cyngor.
Ond fe gollodd eu darpar ymgeisydd Seneddol Penri James, ei sedd.
Fe enillodd yr Annibynnwyr 12 sedd, y Democratiaid Rhyddfrydol 10 a Llafur 1.
Fe gollodd y Cynghorydd Penri James ei sedd yn Nhir Mynach o 12 pleidlais.
A gadawodd Mr James, cyn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, y cyfri yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron heb wneud sylw.
Cyn yr etholiad roedd clymblaid carfan Annibynnol a Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym a Phlaid Cymru oedd yr wrthblaid.
 |
PWY OEDD YN RHEDEG Y CYNGHORAU
Ceredigion: Carfan Annibynnol/Democratiaid Rhyddfrydol/
Powys: Carfan Annibynnol
|
Mae Keith Evans, arweinydd y garfan Annibynnol ac arweinydd y cyngor, wedi cadw ei sedd yn Llandysul ac Elin ap Gwynn, arweinydd grŵp Plaid Cymru, ei sedd yng Ngheulan a Maesmawr.
Enillodd y garfan Annibynnol sedd Llansantffraid oddi wrth Blaid Cymru
Roedd nifer y rhai a bleidleisiodd yn uchel, hyd at 70% mewn mannau yn ne'r sir, er enghraifft Aberteifi.