Rhodri Morgan: "Noson anodd iawn " i Lafur
|
Mae Llafur wedi colli rheolaeth ar bump o gynghorau yng nghadarnleoedd y blaid.
Maen nhw wedi colli rheolaeth ar Gynghorau Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a'r Fflint.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan bod y canlyniadau gwael i'w blaid yn dod yn sgil yr holl newyddion drwg am yr economi.
"Mae yna deimlad yn erbyn gwleidyddion mas yna, does dim dwywaith am hynny, felly mae ymgeiswyr protest yn gwneud yn ofnadwy o dda," meddai.
Yn Nhorfaen fe gollodd Llafur 18 ward - wyth i'r garfan Annibynnol, pedair i'r Ceidwadwyr, tair i Lais y Bobol, dwy i Blaid Cymru ac un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ym Mlaenau Gwent fe gollodd Llafur seddau i'r garfan Annibynnol a Llais y Bobl.
Yn gynharach collodd Llafur reolaeth ar Gyngor Merthyr Tudful ble cafodd chwe chynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hethol.
Dywedodd Amy Kitcher, cynghorydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ward y Dre,: "Mae hon yn noson hanesyddol ... mae degau o flynyddoedd o oruchafiaeth y Blaid Lafur wedi cael eu sgubo i ffwrdd."
Cipiodd ymgeiswyr annibynnol dair sedd gan adael Llafur gyda chyfanswm o wyth ar ôl colli naw sedd.
Yng Nghasnewydd mae Plaid Cymru wedi cipio sedd Parc Tredegar gan Llafur, gan wrthdroi mwyafrif o 20.
Wrth i ail-gyfrif barhu yng Nghasnewydd mae Llafur yn poeni y gallan nhw golli rheolaeth ar y Cyngor hwn yn ogystal, yn ôl ffynhonnell yn y blaid
Colli Caerffili
Mae'r cyn-ysgrifennydd gwladol Ron Davies wedi helpu i gipio grym oddi wrth Llafur yng Nghaerffili wrth gael ei ethol fel cynghorydd annibynnol ym Machen.
Cafodd ei wraig ei hethol yn gynghorydd Plaid Cymru.
Collodd y blaid Lafur naw sedd yng Nghaerffili gan gynnwys dirprwy arweinydd y grŵp Llafur Gwyn Price, gan adael y cyngor heb reolaeth lwyr.
Roedd Plaid Cymru wedi gobeithio adennill y cyngor ac fe lwyddon nhw i gipio 6 ward ond mae ganddyn nhw yr un nifer o seddi â Llafur sef 32.
 |
PWY OEDD YN RHEDEG Y CYNGHORAU YN Y DE-DDWYRAIN
Blaenau Gwent: Llafur
Pen-y-bont: Democratiaid Rhyddfrydol/Ceidwadwyr/Plaid Cymru/ Annibynnol
Caerffili Llafur
Caerdydd: Democratiaid Rhyddfrydol
Merthyr: Llafur/ Annibynnol
Mynwy: Ceidwadwyr
Nedd Port Talbot: Llafur
Casnewydd: Llafur
Rhondda Cynon Taf: Llafur
Torfaen: Llafur
Bro Morgannwg: Llafur/Plaid Cymru/Annibynnol
|
Bu rhywfaint o oedi cyn cyhoeddi canlyniadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr am fod papurau pleidleisio'r cynghorau cymunedol a sirol wedi cael eu cymysgu.
Roedd problemau enfawr wrth gyfri pleidleisiau yno yn 2004.
Llwyddodd Llafur i gipio bum sedd ychwanegol yno ac mae gan y blaid hanner 54 sedd yr awdurdod er does gan yr un blaid reolaeth lwyr.
Brwydr Bro Morgannwg
Roedd oedi hefyd ym Mro Morgannwg gan fod nifer fawr o bleidleiswyr post wedi pleidleisio ar y dydd, yn ôl swyddogion etholiadol.
Y Ceidwadwyr enillodd.
Y Ceidwadwyr oedd â'r nifer mwyaf o gynghorwyr yn y Fro ar ôl etholiad 2004 er nad oedd ganddyn nhw fwyafrif clir.
Tan fis Rhagfyr 2006 fe lwyddon nhw i reoli fel lleiafrif ond wedi ffrae am gyfrifon y cyngor, cipiodd y Blaid Lafur yr awenau gyda chymorth Plaid Cymru.
Ond ni lwyddon nhw ddal eu gafael ar rym gan golli tair sedd.
Dywedodd arweinydd y grŵp, Gordon Kemp,: "Mae hwn yn ganlyniad gwych ac yn deyrnged i waith caled ein hymgeiswyr ni a'n gweithwyr etholiad yn y sir.
"Ac mae'n amlwg bod pobol y Fro wedi gwrthod polisïau'r Blaid Lafur, polisïau sy wedi methu."
Yng ngogledd Cymru fe gollodd Llafur eu gafael ar Sir y Fflint - yr unig gyngor roedd y blaid yn ei reoli yn y Gogledd.
Collodd y blaid 15 sedd ac nid Llafur yw'r grŵp mwyaf bellach.
Ond fe gipiodd ymgeiswyr annibynnol 26 sedd ac mae'n debyg y byddan nhw'n ffurfio clymblaid gyda Llafur.
Roedd hi'n noson anodd i Lafur yng Nghaerfyrddin yn ogystal wrth i'r blaid golli 14 sedd gan gynnwys sedd arweinydd y grŵp Llafur a dirprwy arweinydd y cyngor, Martin Morris.
Ond mae'n debyg y bydd clymblaid Llafur a'r grŵp anibynnol yn parhau.