BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Mai 2008, 06:52 GMT 07:52 UK
Glesni'n codi arian i'r Urdd
Glesni Fflur
Mae Glesni Fflur a'i bryd i serenu yn y West End

Merch sydd am berfformio ar lwyfannau'r West End yn Llundain yw un o'r artistiaid mewn cyngerdd arbennig yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn nos Iau.

Glesni Fflur ac artistiaid lleol sy'n perfformio yn y cyngerdd i godi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yng Nghonwy.

Y llynedd fe drechodd Glesni o Lannor ger Y Bala Rhydian Roberts ddaeth yn enwog wedi'r rhaglen The X Factor.

Ail oedd Rhydian i Glesni yn yr Eisteddfod.

Yn y cyngerdd bydd y ffliwtydd Telaid Alaw o Frongoch, ger Y Bala, a'r feiolinydd Gwenno Roberts o Fangor.

Mae Glesni yn chwilio am waith ac yn ceisio gwireddu ei breuddwyd i gael bod yn seren yn y West End.

"Fe wnes i symud i Lundain ar ôl gadael y coleg haf diwetha," meddai.

"Roedd yn dipyn o sioc ond dwi'n mwynhau'r bywyd."

Tân

Eisoes mae Glesni wedi cael clyweliadau ar gyfer rhannau yn Mama Mia a Grease.

Oriau cyn cystadlu yn yr eisteddfod sir y llynedd roedd hi wedi dianc o dân ddifrododd ei chartref.

Roedd hi a'i chwaer Manon Eleri yn gaeth ar ail lawr eu cartref pan gychwynnodd y tân.

Cymydog achubodd y ddwy.

Ar ôl yr Eisteddfod bu Glesni'n cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Mae Telaid Alaw wedi ennill sawl gwobr yn yr Eisteddfod ac fe ddaeth Gwenno Roberts yn gyntaf y llynedd yn yr Eisteddfod.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir fferm Gloddaeth Isaf, Glanwydden ger Llandudno, rhwng Mai 26 a 31.



HEFYD
£4,000 i Manon
23 Medi 07 |  Newyddion
Dawnswraig: Ysgoloriaeth Terfel
17 Medi 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^