Roedd y gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10am
|
Mae'r garfan Annibynnol mewn mwyafrif ar Ynys Môn - er iddyn nhw golli naw sedd, gan gynnwys pump i Lafur.
Y canlyniad terfynol yw Annibynnol 22, Plaid Cymru 8, Llafur 5, Ceidwadwyr 2, Democratiaid Rhyddfrydol 2 ac eraill 1.
Y nifer a bleidleisiodd oedd 54% - yn 2004 pleidleisiodd 50%.
Fe gollodd yr ymgeisydd Annibynnol a'r cyngyfarwyddwr tai, John Arthur Jones, sedd Cyngar.
Enillodd Rhian Medi o Blaid Cymru o 200 o bleidleisiau.
Y canlyniad oedd John Arthur Jones (314) a Rhian Medi (514). Y tro diwetha trechodd Mr Jones Rhian Medi o un bleidlais.
Yn y cyfamser, fe gollodd yr ymgeisydd Annibynnol John Meirion Davies sedd Tysilio ar Ynys Môn.
Fe sy'n dal portffolio addysg a chollodd i ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Selwyn Williams.
Gwynedd
Mae Plaid Cymru wedi colli rheolaeth o Gyngor Gwynedd, gan gynnwys Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru ac arweinydd y cyngor Richard Parry Hughes.
Collodd y blaid wyth o'u seddi.
Chris Hughes o Lais Gwynedd wnaeth ennill ward Y Bontnewydd gyda 295 tra bod Dafydd Iwan wedi derbyn 236.
Collodd Mr Parry Hughes ei sedd yn Abererch i ymgeisydd Llais Gwynedd.
Mae'r grŵp a sefydlwyd i wrthwynebu'r cynlluniau i ad-drefnu addysg yn y sir wedi cipio 12 sedd i gyd.
Gethin Williams o Lais Gwynedd enillodd ward Brithdir a Llanfachreth (462) ac fe gafodd Peredur Jenkins o Blaid Cymru 298 o bleidleisiau.
Enillodd Louise Hughes (Llais Gwynedd) yn Llangelynnin a Gwilym Roberts (Llais Gwynedd) yn Niffwys a Maenofferen.
Fe gadwodd ymgeisydd Plaid Cymru Linda Morgan ei sedd yn Ne Dolgellau.
Fe fydd y canlyniadau yn cael eu cyfri dros nos a dydd Gwener
|
Mae gan y cynghorau sir gyfrifoldebau eang a chyllid o bron £20 biliwn dros gyfnod o bedair blynedd.
Nhw sy'n gyfrifol am ysgolion, ailgylchu, casglu ysbwriel, canolfannau hamdden a chynllunio.