Dim ond diwrnod sydd cyn y bydd y blychau'n llawn pleidleisiau
|
Fe fydd gwleidyddion yn gwneud ymgais munud ola am bleidleisiau ar ddiwrnod ymgyrchu llawn ola cyn yr etholiadau ddydd Iau.
Mae miloedd o ymgeiswyr yn sefyll ar gyfer 1,200 o seddi ar 22 cyngor sir.
Fe fydd 'na bleidleisio am gynghorwyr tref a chymuned hefyd.
Wrth i'r gwleidyddion ymgyrchu mae swyddogion etholiadol yn paratoi'r gorsafoedd pleidleisio a fydd yn agor am 7am ddydd Iau.
Caiff y pleidleisiau eu cyfri dros nos nos Iau a bore dydd Gwener.
Mae Llafur hanner ffordd drwy eu trydydd tymor wrth y llyw yn San Steffan ac mae 'na flwyddyn ers i glymblaid Llafur Plaid Cymru gael ei sefydlu yn y Cynulliad.
Mae hi'n gyfle i bleidleiswyr ym mhob rhan o Gymru i basio barn ar berfformiad yr holl bleidiau.
Yn absenoldeb polau piniwn, fe fydd y canlyniadau ac ymddygiad y pleidleisiwr Cymreig yn cael ei astudio'n fanwl.
 |
PWY SY'N RHEDEG CYNGHORAU CYMRU
Abertawe: DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL / ANNIBYNNOL
Blaenau Gwent: LLAFUR
Bro Morgannwg: LLAFUR / PLAID CYMRU / ANNIBYNNOL
Caerdydd: DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Caerffili: LLAFUR
Caerfyrddin: LLAFUR / ANNIBYNNOL
Casnewydd: LLAFUR
Castell-nedd Port Talbot: LLAFUR
Ceredigion: ANNIBYNNOL / DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL / LLAFUR
Conwy: ANNIBYNNOL / CEIDWADWYR / PLAID CYMRU/ DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Dinbych: ANNIBYNNOL / CEIDWADWYR / PLAID CYMRU
Fflint: LLAFUR
Gwynedd: PLAID CYMRU
Merthyr Tudful: LLAFUR / ANNIBYNNOL
Mynwy: CEIDWADWYR
Penfro: ANNIBYNNOL
Pen-y-Bont ar Ogwr: DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL / CEIDWADWYR/ PLAID CYMRU / ANNIBYNNOL
Powys: ANNIBYNNOL
Rhondda Cynon Taf: LLAFUR
Torfaen: LLAFUR
Wrecsam: Bwrdd o dan arweiniad y DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Ynys Môn: MÔN YMLAEN / ANNIBYNWYR RADICAL
|
Mae Llafur yn rheoli neu yn rhannu grym mewn 9 o'r 22 awdurdod yng Nghymru; Democratiaid Rhyddfrydol 6; Plaid Cymru 5; Ceidwadwyr 4 ac mae aelodau annibynnol neu eraill yn arwain 11.
Fe fydd canlyniad yr etholiadau lleol yn penderfynu pwy fydd yn rheoli gwariant o bron i £4 biliwn y flwyddyn nesaf, sef bron i £20 biliwn dros y pedair blynedd nesaf.
Fe fydd ganddyn nhw reolaeth dros ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, ailgylchu a chasglu gwastraff, treth y cyngor, ceisiadau cynllunio a chanolfannau hamdden.
Yn y gorffennol roedd Llafur yn rheoli nifer fawr o'r awdurdodau.
Ond yn etholiadau 1999 a 2004 fe gafodd y tueddiad 'na ei newid wrth i sawl cyngor beidio â chael rheolaeth lwyr - a mwy o wleidyddiaeth clymblaid yn amlygu.
Dim ond 10 cyngor yn 2004 welodd un blaid â mwyafrif clir.
Mae'r etholiad yn ward Yr Hôb ar Gyngor Sir y Fflint wedi cael ei ohirio ar ôl marwolaeth un o'r ymgeiswyr, Stuart Brown.
"Mae'n meddyliau gyda theulu Mr Brown ar adeg trist iawn," meddai Colin Everett, y swyddog etholiadau.
"Fe fydd y broses etholiadol yn ail gychwyn ar gyfer y ward unwaith y byddwn ni wedi dewis dyddiad arall."
Mae etholiadau wedi cael eu gohirio hefyd mewn dwy ward yng Nghasnewydd, St Julians a Betws, ar ôl marwolaethau cynghorwyr.