Fe fydd y telesgop i'w gweld ar y Maes
|
Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni fe fydd 'na gyfle i edrych allan dros y bydysawd a syllu ar y sêr.
O'r Maes yng Nghaerdydd fe fydd 'na gysylltiad byw gyda Thelesgopau Faulkes, sy'n werth £10 miliwn, yn Hawaii a New South Wales yn Awstralia.
Caiff arsyllfa ei hadeiladu ar y Maes ar ôl i'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg roi grant o £15,000.
Mae'n brosiect ar y cyd gyda'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Y gobaith yw y bydd 'na gyfle i weld y cosmos yn glir gan y bydd hi'n nos yn Hawaii ac Awstralia pan fydd hi'n ddydd yng Nghaerdydd.
'Nôl mewn amser'
Yn ôl Robyn Wheldon-Williams, ymgynghorydd gwyddoniaeth yr Eisteddfod, mae'r golau sy'n cyrraedd ein planed wedi teithio o bellteroedd maith.
Mae'r pafiliwn gwyddoniaeth yn llawn rhyfeddod
|
"Mae'r amser yma yn golygu fod y data sy'n ein cyrraedd yn dod o ddechrau hanes y bydysawd - 14 biliwn o flynyddoedd yn ôl.
"Mewn gwirionedd, mae'r ddau delesgop yn mynd â ni yn ôl mewn amser."
Bydd ymwelwyr â'r Eisteddfod hefyd yn gallu defnyddio gliniaduron arbennig i arbrofi â'r Big Bang Simulator, meddalwedd sy'n gallu creu bydysawd bach, gan gynnwys taith 3D.
Dywedodd Paul Roche, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r Eisteddfod yn gyfle da i ymwelwyr weld y gwaith ymchwil gwych sydd yn cael ei wneud yng Nghymru.
"Mae'n gwyddonwyr yn arwain gwaith mewn seryddiaeth fodern gan adeiladu offerynnau fydd yn ein helpu i ddod i ddeall y byd yn well."