BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 29 Ebrill 2008, 10:12 GMT 11:12 UK
Cwpan: Katherine i ganu'r anthem
Katherine Jenkins
Dywedodd Katherine bod hyn yn "anrhydedd ffantastig"

Katherine Jenkins fydd y person cyntaf i ganu Hen Wlad Fy Nhadau yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Bydd Lesley Garrett hefyd yn canu God Save The Queen ar ddechrau gm Caerdydd yn erbyn Portsmouth yn Wembley ar Fai 17.

Mae Cymdeithas Bl-Droed Lloegr yn amcangyfrif y bydd rhwng 480 a 500 miliwn yn gwylio'r gm ledled y byd.

Dywedodd Katherine: "Mae'n anrhydedd ffantastig i mi ganu ein hanthem unrhyw le yn y byd, ond bydd canu yn rownd derfynol Cwpan FA yn Wembley yn arbennig iawn."

Dyma'r tro cyntaf i Gaerdydd fod yn y rownd derfynol ers iddyn nhw ennill y Gwpan yn 1927.

Y gm

Mae gan y ddau glwb 25,000 o dicedi ar gyfer y rownd derfynol.

Fe fydd Caerdydd yn chwarae yn eu dillad oddi cartref, crysau du.

Mae'n debyg bod y crys yma yn lwcus oherwydd eu bod wedi ei wisgo yn erbyn Middlesbrough yn rownd yr wyth olaf ac yn erbyn Barnsley yn y rownd gynderfynol.



HEFYD
Wembley: Adar Gleision yn dathlu
07 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^