BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Ebrill 2008, 10:39 GMT 11:39 UK
Etholiad: Arestio menyw
Blwch pleidleisio
Fe fydd 'na dros 3,000 o ymgeiswyr ar gyfer dros 1,200 o seddi

Cafodd menyw 54 oed ei harestio ddydd Sadwrn gan Heddlu De Cymru mewn cysylltiad â honiadau'n ymwneud â throseddau etholiadol.

Ar ôl cael ei holi yng Ngorsaf Ganolog Abertawe fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos honedig o dwyll etholiadol mewn cysylltiad â llofnodion ffug ar bapur enwebiadau ymgeiswyr Ceidwadol yn y ddinas.

Yr wythnos ddiwetha ymddiswyddodd Norman Whitlock, ymgeisydd Ceidwadol, o'r blaid.

Deellir nad oes cysylltiad rhwng y ddau achos.

Mr Whitlock oedd yn trefnu enwebiadau nifer o ymgeiswyr Ceidwadol yn ardal Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol ar y pryd eu bod yn cynnal ymchwilid mewnol.

Mae Mr Whitlock yn dal yn ymgeisydd gan ei bod yn rhy hwyr yn y dydd i'w enw gael ei dynnu, ychwanegodd y llefarydd.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^