BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Ebrill 2008, 07:41 GMT 08:41 UK
Y ddinas lle oedd 'daeargryn'
Guto Thomas
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Neuadd y Ddinas
Mae 'na waith ail-wampio yn cael ei wneud yng nghanol Abertawe

Os oedd canlyniadau Etholiad y Cynulliad yn ergyd i'r Blaid Lafur ar draws Cymru yn 1999, roedd canlyniad yr etholiadau lleol yn 2004 mewn cadarnleoedd fel Abertawe yn ddaeargryn mwy annisgwyl.

Fe gollodd y Blaid Lafur reolaeth ar y cyngor am y tro cyntaf ers chwarter canrif.

Er iddyn nhw ennill mwy o seddi ar draws y ddinas nag unrhyw blaid arall, doedd dim mwyafrif ganddyn nhw - gan agor cil y drws i'r Democratiaid Rhyddfrydol glymbleidio ag aelodau Annibynnol ac, ar y dechrau o leia, gyda'r Ceidwadwyr hefyd.

Ar y pryd roedd nifer yn dehongli'r canlyniad fel arwydd o wrthwynebiad nifer fawr o bobl yn Abertawe at bolisi tramor Llywodraeth Prydain, yn benodol y rhyfel yn Irac.

Ond roedd y penderfyniad annisgwyl ac amhoblogaidd i gau canolfan hamdden y ddinas yn ffactor lleol pwysig.

Flwyddyn wedi i'r glymblaid fod wrth y llyw daeth cyhoeddiad y byddai'r ganolfan hamdden yn cael ei ail-adeiladu a chafodd ei hail-agor yn swyddogol yn gynharach eleni gan y Frenhines, wedi buddsoddiad o £32 miliwn.

Allweddol

Un o'r cwestiynau allweddol yw sut bydd y gwariant sylweddol hwn, yn ogystal â pholisïau fel agor canolfan ddinesig a llyfrgell ganolog newydd, yn effeithio ar benderfyniadau'r etholwyr.

Mae'r Blaid Lafur, er enghraifft, wedi beirniadu'n llym y gost i ymwelwyr y ganolfan hamdden - heb sôn am faint o arian gafodd ei wario ar yr ail-adeiladu.

Y SEFYLLFA BRESENNOL
Llafur: 31
Dem Rhydd: 20
Annibynnol: 11
Ceidwadwyr: 4
Plaid Cymru: 4
Eraill: 1
Seddi gwag: 1

Mae'n debygol y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn bwnc llosg wrth i ailwampio canol y ddinas (yn rhannol er mwyn rhoi rhwydd hynt i'r "bendy-bus") beri pob math o anghyfleustra dros dro.

Ac mae'r pleidiau'n ffraeo am gynlluniau i ail-ddatblygu'r orsaf fysiau ganolog, heb sôn am gyflwr busnesau yng nghanol y ddinas.

Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi beirniadu sut mae gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu cynnal gan y cyngor - a chostau mawr moderneiddio system technoleg wybodaeth yr awdurdod.

Lleiafrifol

Cafodd y glymblaid yn Abertawe ei gwanhau tua hanner ffordd drwy'r tymor etholiadol pan benderfynodd y grŵp Ceidwadol adael ac ail-ymuno â'r meinciau cefn fel gwrthblaid.

Canolfan hamdden newydd Abertawe
Nae'r ganolfan hamdden newydd yn destun trafod yn y ddinas

Ers hynny, mae'r glymblaid wedi bod yn weinyddiaeth leiafrifol gydag 20 aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol ac 11 o aelodau Annibynnol.

Yn yr etholiadau ar Fai 1 mae'n werth nodi bod mwy o ymgeiswyr gan y Ceidwadwyr nag sydd gan y Blaid Lafur ac efallai bod hyn yn arwydd o'u gobeithion i ffurfio rhan ddylanwadol mewn clymblaid newydd.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi canolbwyntio ar tua 50 o'r 72 o seddi tra bod Plaid Cymru dim ond yn brwydro mewn un o bob tair sedd.

Fe fydd mwy na 270 o ymgeiswyr ac felly ddewis llawer ehangach na'r prif bleidiau, gan gynnwys nifer fawr o ymgeiswyr Annibynnol, y nifer fwya o Wyrddion (17) nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru, nifer o bleidiau asgell chwith, a phedwar ymgeisydd y BNP.

Beth bynnag fydd y canlyniad, mae disgwyl y bydd dinasyddion Abertawe ymysg y cynta i gael clywed pa liw neu liwiau gwleidyddol fydd yn fuddugol.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^