|
Bethan Lewis
Gohebydd gwleidyddol
|
Mai 1: 3,000 o ymgeiswyr ar gyfer mwy na 1,200 o seddi
|
Ar Fai 1 mae pobl Cymru yn pleidleisio wrth i filoedd o ymgeiswyr anelu at ennill 1,200 o seddi cyngor yn yr etholiadau lleol.
Fe fydd y canlyniadau'n allweddol, yn penderfynu sut y bydd ein 22 awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau fel addysg, trafnidiaeth a chasglu sbwriel - a hynny am bedair blynedd.
Mae cynghorau'n gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol, ffyrdd, cynllunio, tai a phenderfynu maint treth y cyngor.
Gall etholwyr bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post neu drwy bleidlais ddirprwyol, hynny yw cael rhywun i bleidleisio ar eu rhan.
Mae 'na 3,266 o ymgeiswyr ar gyfer 1,264 o seddi ac fe fydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod yr etholiad.
Roedd rhaid i geisiadau ar gyfer pleidlais bost am y tro cynta gyrraedd cynghorau erbyn Ebrill 16.
Dyddiau neu wythnosau
Fe fydd rhai cynghorau'n cyfri noson y bleidlais ond bydd eraill yn aros tan y diwrnod canlynol.
Mae hynny'n golygu y bydd canlyniadau'n dechrau cael eu cyhoeddi yn oriau mân Mai 2 a pharhau drwy gydol y dydd.
Os nad oes plaid neu grŵp o gynghorwyr yn ennill mwyafrif clir, fe allai gymryd dyddiau neu hyd yn oed wythnosau o drafod cyn iddi ddod yn glir pwy fydd yn rheoli.
Mae mwy o wybodaeth am yr etholiadau yng Nghymru a'r ymgeiswyr ym mhob ardal yn y straeon cysylltiedig ar y dde, yn enwedig yn yr adran Etholiadau Lleol: Y Cynghorau.