|
Gan Bethan Lewis
Gohebydd gwleidyddol
|
Mae'r cyngor am gasglu'r biniau bob pythefnos
|
Ysgolion, casglu biniau a threth y cyngor yw rhai o'r pynciau fydd yn penderfynu sut y bydd pobl yn bwrw eu pleidlais ar Fai 1.
Yn sicr, fe fydd yn gyfle i bleidleiswyr rhoi eu barn am wasanaethau lleol.
A rhaid penderfynu a yw'r arian y mae cyngor yn hawlio mewn trethi yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon.
Mewn etholiadau lleol mae'r darlun yn amrywio rhwng pob awdurdod a hyd yn oed rhwng wardiau unigol.
Ond mae 'na bynciau trafod sy'n debyg o ddylanwadu ar y pleidleisio ar draws Cymru.
Corddi'r dyfroedd
Cynghorau sy'n darparu nifer o'n hadnoddau lleol, ein canolfannau cymunedol, adnoddau hamdden a pharciau.
Yn Abertawe mae cost y ganolfan hamdden newydd wedi corddi'r dyfroedd.
Mewn llefydd eraill mae'r cysylltiad mwy cyffredinol rhwng adnoddau hamdden ardal ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn bwnc llosg.
Weithiau maen nhw'n darged ar gyfer fandaliaeth. Dro arall mae 'na deimlad nad oes digon o adnoddau i bobl ifanc a hynny'n rheswm am ymddygiad gwael.
Mae darparu a chynnal adnoddau y gall yr holl gymuned eu mwynhau yn ffactor allai ddylanwadu ar y pleidleisio.
Sbwriel ac ailgylchu
I rai, hwn yw'r mesur pa mor effeithiol yw eu cyngor. Ydy'r biniau'n cael eu casglu - a pha mor aml y mae hynny'n digwydd?
Nid pawb sy'n hoffi'r drefn o gasglu biniau bob pythefnos yn hytrach na'n wythnosol.
Mae'n ymgais i leihau'r sbwriel sy'n mynd i domenni ac annog mwy o ailgylchu, medd y cynghorau, tra bod eraill yn dadlau ei fod yn gwneud dim i hyrwyddo ymddygiad gwyrdd.
Ond beth am y gwasanaethau ailgylchu sy'n cael eu cynnig?
Os nad yw'r etholwyr yn fodlon ar y drefn yn lleol, fe allai hynny gyfrannu at benderfyniad i daflu'r blaid sy'n llywodraethu i'r domen sbwriel.
Tai
Er bod 'na dystiolaeth bod prisiau tai'n gostwng, mae darparu tai fforddiadwy yn her anferth.
Mae'r gost o gynnal cyflenwad tai cyngor yn sylweddol a rhai awdurdodau wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb i gymdeithasau tai.
Mewn rhai ardaloedd mae'r broses o drosglwyddo stoc tai wedi bod yn fwy dadleuol a chafodd cais i wneud hynny yn Wrecsam ac Abertawe ei wrthod gan denantiaid.
Fe allai Llywodraeth y Cynulliad ddileu'r "hawl i brynu" tai cyngor mewn rhai ardaloedd.
Ond mae'n debygol y bydd darparu digon o gartrefi fforddiadwy yn parhau'n broblem i gynghorau.
Treth y cyngor
Mae'r symiau mae cynghorau yn eu casglu trwy dreth y cyngor yn gŵyn gyson.
Eleni fe fydd bil band D ar gyfartaledd yn £1044, dwbl y cyfanswm ddegawd yn ôl.
Daw'r rhan fwyaf o gyllideb cynghorau o Lywodraeth y Cynulliad.
Ond wedi setliad tynn eleni rhybuddiodd yr awdurdodau y byddai'n rhaid i'r dreth godi.
Yn y pen draw, doedd y cynnydd ddim mor uchel ag y rhybuddiwyd - a'r etholiad yn sicr yn rhannol esbonio hynny.
Ond dylid bod yn wyliadwrus o ymgeiswyr sy'n addo gwariant mawr ar ôl Mai 1. Mae arian yn brin.
Ysgolion
Mae 'na filoedd o lefydd gwag yn ein hysgolion a chynlluniau sawl cyngor i ad-drefnu'r ddarpariaeth yn ddadleuol.
Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, roedd un o bob chwech sedd yn ein dosbarthiadau yn wag llynedd, sefyllfa y mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol ei datrys, meddai gweinidogion.
Yng Nghaerdydd a Gwynedd yn arbennig mae'r cynlluniau ad-drefnu, sy'n cynnwys cau rhai ysgolion, wedi arwain at wrthwynebiad chwyrn.
Fydd 'na ddim penderfyniad terfynol am ddyfodol ysgolion yn y ddwy ardal tan ar ôl yr etholiad.
Ond dydy'r broblem sylfaenol ddim yn mynd i ddiflannu ac fe fydd y pleidiau'n ceisio argyhoeddi'r pleidlesiwyr mai y nhw fydd yn gwrando a gweithredu'n fwyaf effeithiol.
Beth arall?
Gofalu am yr hewlydd, penderfynu ceisiadau cynllunio a darparu gwasanaethau cymdeithasol - mae'r rhain hefyd yn rhan o waith cynghorau ac yn ffactorau allai ddylanwadu ar yr etholiad.
Ond mae 'na bynciau allweddol eraill sydd y tu hwnt i gyfrifoldebau llywodraeth leol.
Dyna ddyfodol ein swyddfeydd post a'r cynlluniau i gau degau o ganghennau lleol.
Y Swyddfa Bost a Llywodraeth Prydain sy'n gyfrifol ond mae'n destun brwydro ymhlith ymgeiswyr lleol.
Er mai etholiad lleol yw hwn mae'n debygol y bydd y cyd-destun Cymreig a Phrydeinig hefyd yn effeithio ar y canlyniadau.