BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 27 Ebrill 2008, 12:40 GMT 13:40 UK
Teyrnged i Owen am ei gyfraniad
Owen Edwards
Owen Edwards ywr pumed person i dderbyn tlws Cyfrwng
Mae prif weithredwr cyntaf S4C yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i fyd y cyfryngau yng Nghymru.

Fe fydd Owen Edwards yn derbyn Gwobr Cyfrwng 2008 mewn cynhadledd yn Aberystwyth ym mis Mai.

Dywedodd cadeirydd Cyfrwng, John Hefin, fod Mr Edwards yn haeddu'r wobr am nifer o resymau.

"Pleser oedd derbyn canlyniad pleidlais aelodau Cyfrwng eleni ac roedd Owen yn enillydd o bell ffordd," meddai John.

"Gwn o brofiad personol am ei waith o flaen y camera fel cyflwynydd y rhaglen newyddion Heddiw a thu l ir camera pan oedd yn rheolwr y BBC.

'Cyfraniad gwerthfawr'

"Maen meddu ar bersonoliaeth rymus ac yn ddieithriad yn fonheddwr greddfol.

"Braint yn awr yw cael cydnabod ei gyfraniad gwerthfawr i hanes darlledu yng Nghymru."

Eisoes mae'r Athro Emeritws Gwyn Thomas, Emyr Humphreys ar Athro Peter Stead wedi derbyn y wobr.

Alwyn Roberts, aelod blaenllaw o awdurdod sefydlu S4C rhwng 1981 ac 1986, fydd yn cyflwyno'r wobr.

Fe fydd y seremoni wobrwyo ar ddiwedd diwrnod cyntaf cynhadledd Cyfrwng 2008, cynhadledd fydd yn trafod sut maer cyfryngau darlledu a pherfformio yng Nghymru yn ymateb i her yr oes ddigidol, aml-lwyfan.

Mae disgwyl i hyd at 80 o bobl fod yn y gynhadledd fydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, rhwng Mai 1 a 2.



HEFYD
S4C: Mwy o raglenni i blant
29 Chwef 08 |  Newyddion
S4C: 'Hwb i'r amgylchedd'
20 Chwef 08 |  Newyddion
S4C yn cynnal 2,250 o swyddi
10 Hyd 07 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^