|
Guto Thomas
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
'Dydd o brysur bwyso': Cyfri'r papurau pleidleisio
|
Pe bai rhyw fath o Rick van Winkle gwleidyddol yn dod am dro i Gymru am y tro cynta ers degawd, fe fyddai'n cael ei synnu'n go arw.
Mae map gwleidyddol y wlad wedi newid yn llwyr.
Cyn datganoli yn 1999, roedd y Blaid Lafur yn rheoli dros hanner y 22 gyngor sir a chanddyn nhw bresenoldeb dylanwadol mewn nifer o gynghorau eraill.
Ond cafodd goruchafiaeth y Blaid Lafur ei thanseilio yn 1999 wrth i Blaid Cymru ennill rheolaeth cynghorau Caerffili a Rhondda Cynon Taf.
Roedd 'na bris i'r Blaid Lafur ei dalu er gwaetha ymdrech lwyddiannus i adennill y cynghorau yn 2004, wrth iddyn nhw golli rheolaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Clymbleidio
Yn yr un cyfnod roedd 'na hwb i'r Ceidwadwyr wrth ennill rheolaeth yn Sir Fynwy ac (am gyfnod o leia) ym Mro Morgannwg.
Ond y datblygiad mwy trawiadol oedd tueddiad ym mhob rhan o Gymru at glymbleidio - a hynny'n arwydd i bawb bod 'na ddewis gwleidyddol go iawn.
 |
YMGEISWYR ETHOLIADAU LLEOL CYMRU 2008
Llafur: 27%
Ceidwadwyr: 16%
Plaid Cymru: 16%
Democratiaid Rhyddfrydol: 13%
Annibynnol: 22%
Eraill: 6%
Canrannau wedi eu newid yn nes at y ffigwr llawn agosaf
|
Mae canran y cynghorwyr sy'n cynrychioli Llafur wedi gostwng yn y cyfnod diweddar.
Erbyn hyn, mae 'na 1,264 o seddi cyngor yng Nghymru.
Rhwng 1999 a 2004 crebachodd nifer y cynghorwyr Llafur o 42.7% i 37.8% tra bod cynnydd o tua 3% yr un wedi bod yn etholiadau 2004 i'r Democratiaid Rhyddfrydol (11.2%) a'r Ceidwadwyr (8.8%).
Roedd 'na leihad yn nifer cynghorwyr Plaid Cymru yn 2004, i lawr i 13.8% yn 2004 - tra ei bod hi'n bwysig cofio bod tua chwarter cynghorwyr Cymru yn 1999 ac eto 2004 yn dweud eu bod yn "Annibynnol."
Mae'n anodd iawn cyffredinoli ynglŷn â natur y garfan fawr o aelodau "Annibynnol."
Ac mae amrywiaeth o unigolion a grwpiau yn defnyddio'r term "Annibynnol" - gyda'r prif bleidiau gwleidyddol yn gwneud eu gorau i berswadio cymaint o unigolion i ddangos eu lliwiau gwleidyddol go iawn yn etholiadau 2008.
Cefnogaeth plaid
Mewn ambell ardal wledig mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu bod yr ymdrech wedi bod yn llwyddiannus - ac mewn rhannau eraill o Gymru, mae'n ymddangos bod cynnydd wedi bod yn nifer yr ymgeiswyr Annibynnol.
Mae'r twf mewn ardaloedd mwy trefol yn glir yn rhai o gymoedd y de wrth i 20 o aelodau Llais y Bobl sefyll fel ymgeiswyr ym Mlaenau Gwent a naw arall yn Nhorfaen - heb sôn am y nifer helaeth o ymgeiswyr gwirioneddol Annibynnol.
Etholiad: Pwy fydd yn eistedd yn siambrau cynghorau Cymru?
|
Yn Abertawe mae 'na ddewis clir rhwng yr ymgeiswyr Annibynnol "swyddogol" (sydd wedi bod mewn grym am bedair blynedd fel rhan o glymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol) ac amryw o ymgeiswyr Annibynnol eraill, heb sôn am yr holl bleidiau llai fel y Gwyrddion.
O ran y pleidiau llai eraill, yn aml gallai'r dewis ddim bod yn fwy eang - gyda Llais Gwynedd yn ceisio tanseilio gafael Plaid Cymru yn eu hen gadarnleoedd yng Ngwynedd, a'r BNP ar y llaw arall yn cynnig 28 o ymgeiswyr yng Nghymru, gan gynnwys naw yng Nghonwy, saith yn Wrecsam, a phedwar arall yn Abertawe.
Serch hynny, o ran ymgeiswyr ar draws Cymru dim ond tua 6% sy'n cynrychioli'r pleidiau llai - a'r nifer sy'n ymgeisio ar gyfer y prif bleidiau yn adlewyrchu'r realiti wleidyddol mewn llywodraeth leol Gymreig (Llafur 27%, tua 16% i'r Ceidwadwyr ac i Blaid Cymru, 13.5% i'r Democratiaid Rhyddfrydol a 22% yn dweud eu bod yn "Annibynnol.")
Un o agweddau llai atyniadol trefn ddemocrataidd llywodraeth leol yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd yw gallu cymaint o ymgeiswyr i gael eu hethol yn ddiwrthwynebiad. Yn 2004, er enghraifft, roedd 44 ym Mhowys, a 36 yng Ngwynedd.
Brwydr go iawn
Mae'r broblem yn parhau ond awgrym bod y sefyllfa'n gwella rhywfaint wrth i'r nifer o ymgeiswyr diwrthwynebiad leihau o 142 yn 2004 i 102 yn 2008.
Yn hanesyddol, mae'r patrwm yn fwy amlwg mewn ardaloedd gwledig tra bod tipyn mwy o gystadleuaeth mewn ardaloedd trefol.
 |
PROFFIL CYNGHORWYR CYMRU
Yn 2004 cafodd 142 (11.2%) o gynghorwyr Cymru eu hethol yn ddiwrthwynebiad
Yn 2008 fe fydd 102 (8%) o gynghorwyr Cymru yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad
Cyfartaledd oed yn 2004 a 2008 yw 61 oed
Mae o leiaf chwe chyngor heb gynghorwyr sy'n iau na 35 oed
Mae llai na 10% o gynghorwyr yn iau na 45 oed
Mae dros 40% yn derbyn eu pensiwn
Cymhared Gwryw/Benyw: 78%/22%
|
Yn 2004 ac eto yn 2008 mae 'na frwydr go iawn wedi bod am bob sedd ar gynghorau Abertawe, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.
Does dim newid o unrhyw sylwedd wedi digwydd, serch hynny, o ran cydraddoldeb dynion a merched, ac oedran cynghorwyr Cymru.
Ar gyfartaledd roedd cynghorwyr dros 61 oed ar drothwy'r etholiadau 2004 ac yn 2008.
A dyw'r ystadegau ddim yn awgrymu bod y sefyllfa ar fin gwella.
Yn o leia chwech o gynghorau, doedd dim un cynghorydd yn iau na 35 oed, llai na 10% o gynghorwyr yn iau na 45 oed a 40% yn ddigon hen i gasglu eu pensiwn.
Pitw yw'r cynnydd yn nifer y cynghorwyr sy'n ferched (22%) - sefyllfa sydd unwaith eto'n debygol o barhau, gan fod nifer yr ymgeiswyr benywaidd yn etholiadau 2008 yn parhau'n druenus o isel.
Ond bydd un person o leiaf yn hapus bod rhai pethau'n parhau heb ormod o newid.
I'r Rip van Winkle anoracaidd, er bod lliwiau'r pleidiau ar y tirlun gwleidyddol wedi newid yn eithriadol o gyflym, mae'r wynebau a'r math o gynghorwyr yr ydyn ni'n dueddol o'u hethol wedi dal eu tir yn rhyfeddol.