|
Bethan Lewis
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
|
Mae traeth Y Barri yn atyniad i ymwelwyr
|
O dre dawel Y Bont-faen i ddiwydiant a thraeth Y Barri, fe fydd y frwydr am Y Fro ymhlith y mwyaf brwd ar Fai 1.
Mae'r penaethiaid gwleidyddol wedi newid yn yr ardal amrywiol yma ers yr etholiadau diwetha bedair blynedd yn ôl.
Y Ceidwadwyr oedd â'r nifer mwya o gynghorwyr ar ôl etholiad 2004 er nad oedd ganddyn nhw fwyafrif clir.
Tan fis Rhagfyr 2006 fe lwyddon nhw i reoli fel lleiafrif ond wedi ffrae am gyfrifon y cyngor, cipiodd y Blaid Lafur yr awenau gyda chymorth Plaid Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr yn benderfynol o ail-gipio'r cyngor a'u llygaid hefyd ar ennill y sedd seneddol oddi ar Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesa.
Tref Y Barri yw'r lle mwyaf poblog yn y sir a chadarnle Llafur.
'Gavin a Stacey'
Mae'n wynebu nifer o'r problemau cymdeithasol ac economaidd a welir mewn trefi eraill ar draws Cymru.
Mae 'na bryder wedi bod am ddirywiad canol y dre dros y blynyddoedd ac roedd cau canolfan Butlins yn Ynys y Barri yn ergyd fawr i'r diwydiant twristiaeth.
Un o brif gyflogwyr y sir ydi gwaith Sain Tathan
|
Bellach mae miliynau o wylwyr y gyfres gomedi'r BBC "Gavin a Stacey" yn gyfarwydd â'r ardal sy'n gartre i Stacey a'i ffrindiau.
Mae'r sylw o bosib yn hwb i'r dre ac mae 'na gynlluniau hefyd i adfywio'r glannau ac ail-ddatblygu tir yno.
Tu hwnt i ffiniau'r Barri mae'r Maes Awyr Rhyngwladol yn Y Rhws yn gyflogwr amlwg.
Ond stori fawr economaidd yr ardal yw'r cynllun i ddod ag academi filwrol anferth i Sain Tathan, a hynny'n creu hyd at 5,000 o swyddi.
Grymus
Fe fydd biliynau o bunnau'n cael eu buddsoddi yn y ganolfan ond bydd rhaid i'r cyngor argyhoeddi trigolion yr ardal y bydd gwasanaethau lleol yn gallu ysgwyddo'r baich pan mae'r gwaith yn dechrau flwyddyn nesa.
Fe fydd y Ceidwadwyr yn gobeithio cipio rhai o seddi Llafur yn nhre llewyrchus Penarth os ydyn nhw am wireddu eu nod o reoli'r cyngor ar eu pennau eu hunain.
Mae tre marchnad Y Bont-faen a'r ardaloedd gwledig o'i chwmpas yn las i gyd.
Ond yn Llanilltud Fawr mae'r Torïaid yn wynebu her rymus yr aelodau annibynnol sydd ar hyn o bryd yn dal tair o'r pedair sedd.
Llafur sydd wedi rheoli Cyngor Bro Morgannwg ers dros flwyddyn ar ôl disodli'r Ceidwadwyr gan honni eu bod wedi cam-weinyddu gwasanaethau cymdeithasol y sir.
Fe wnaeth gweinyddiaeth newydd y cyngor, sy'n cynnwys Plaid Cymru ac un aelod annibynnol, addo mynd i'r afael â'r agendor yn y gyllideb a chyflwyno cynllun i'w weithredu dros dair blynedd.
Mewn sefyllfa lle nad oes un blaid a digon o fwyafrif mae wyth cynghorydd Plaid Cymru wedi chwarae rôl bwysig wrth benderfynu pwy sy'n dal yr awenau.
Dydy'r Fro ddim wedi bod yn dir ffrwythlon i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac felly fe fydd hi'n dipyn o gamp i sicrhau bod gan y blaid gynrychiolaeth o gwbl ar y cyngor.
Uchelgais y Ceidwadwyr yw rheoli'r cyngor ar ôl Mai 1.
Ond mewn ardal sydd â thraddodiad o beidio â rhoi mandad clir i un plaid mae ymhell o fod yn sicr y byddan nhw'n cyrraedd y nod.