BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Ebrill 2008, 12:02 GMT 13:02 UK
Cerdyn pleidleisio i fachgen 2 oed
Finn Proveniers
Mae Finn Proveniers wedi bod yn cael taflenni gan ymgeiswyr

Fel arfer, mae'n rhaid aros i fod yn 18 oed cyn pleidleisio.

Ond mae Finn Proveniers o Rydaman wedi cael cerdyn pleidleisio cyn etholiadau lleol yr wythnos nesaf.

Dyflwydd oed ydi Finn.

Chwerthin oedd ymateb ei deulu, meddai ei dad, Han Proveniers.

Cafodd y cerdyn ei roi o'r neilltu pan gyrhaeddodd y cartref wythnosau yn ôl.

Ond mae Finn wedi dechrau cael taflenni oddi wrth ymgeiswyr yn gofyn am ei bleidlais ar Fai 1.

"Mater o amser fydd hi cyn i bobl ddechrau galw yn y tŷ a gofyn am siarad ag e," meddai'r tad.

Dywedodd ei fod yn credu bod y camgymeriad wedi digwydd ar ôl iddo lenwi'r ffurflen cofrestru yn Sir Gaerfyrddin pan symudodd y teulu i dŷ arall 18 mis yn ôl.

Roedd y ffurflen yn gofyn am enw pawb oedd yn byw yn y tŷ hyd yn oed os oedden nhw dan 16 oed.

"Fe roddes i flwyddyn geni Finn, Medi 2005, ac efallai bod y cyfrifiadur wedi cymryd sylw o'r ddau rif cynta ac yn meddwl ei fod e wedi cael ei eni yn 1920.

"Maen nhw'n meddwl bod Finn yn 87 oed!"

Fe ofynnwyd am sylw oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^