BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Ebrill 2008, 06:13 GMT 07:13 UK
Etholiad: Ymchwiliad i 'dwyll'
Blwch pleidleisio
Fe fydd 'na dros 3,000 o ymgeiswyr ar gyfer dros 1,200 o seddi

Mae'r heddlu'n ymchwilio i honiad o dwyll etholiadol yn ymwneud â'r Ceidwadwyr yn Abertawe.

Credir bod yr achos yn ymwneud â ffugio llofnod ar enwebiad ar gyfer un o'r ymgeiswyr Ceidwadol yn y ddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Gallwn gadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill yn ymwneud â'r etholiadau lleol".

Mae Norman Whitlock, aelod o'r Blaid Geidwadol yn Abertawe a oedd yn gyfrifol am drefnu'r enwebiadau am nifer o ymgeiswyr Ceidwadol, wedi ymddiswyddo o'r blaid.

Dywedodd llefarydd ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae Mr Whitlock wedi ymddiswyddo o'r Blaid Geidwadol yn sgîl yr honiadau.

"Rydym yn cymryd y mater hwn yn eithriadol o ddifrifol a byddwn yn ymchwilio ar frys."

Mae 'na 3,266 o ymgeiswyr ar gyfer 1,264 o seddi o fewn y 22 cyngor.

Fe fydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau Mai 1.



Etholiadau Lleol 2008

NEWYDDION

CANLYNIADAU

Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

  Cynghorwyr Cynghorau
Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
Llaf -124 342 -6 2
Ceid 63 174 1 2
PC 31 205 -1 0
DemRh 21 162 0 0
Eraill 9 381 0 0
DRhL - - 6 18

CEFNDIR
MAES Y GAD

DECHRAU'R FRWYDR

Y CYNGHORAU
 


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^