Cyfaddawd: Mynd i'r oedfa yn rhad ac am ddim
|
Mae'r mudiad cydenwadol Cytûn a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cytuno y gall addolwyr fynd i'r oedfa yn Eisteddfod Caerdydd eleni yn rhad ac am ddim.
Roedd nifer o unigolion a chyrff crefyddol wedi cyhuddo'r Brifwyl o godi tâl am yr hawl i addoli ar fore Sul, Awst 3, am 10am.
Ond dadl yr Eisteddfod oedd bod rhaid ystyried rheolau iechyd a diogelwch.
Dydd Mawrth fe wnaeth Cytûn a'r Eisteddfod gytuno cyfaddawd.
Dywedodd y ddau fudiad y byddai tocyn ar gael i fynd i'r addoliad yn unig.
'Llwyddiant'
Fe fydd disgwyl i bawb adael y Maes wedi'r oedfa neu brynu tocyn dydd yr Eisteddfod.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a Cytûn yn cydweithio i sicrhau llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch drwy annog presenoldeb cryf yn oedfa'r Brifwyl ar fore Sul, Awst 3," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
"Rydan ni'n falch iawn i fod yn gysylltiedig â'r Eisteddfod ac o gael y cyfle hwn i gydweithio gyda'r Brifwyl i sicrhau y perchir egwyddorion nifer o gymunedau ffydd sydd am addoli yn ddirwystr ac yn ddi-dâl," meddai Aled Edwards ar ran Cytûn.
Adolygu
Mae awdurdodau'r Eisteddfod yn mynnu mai cynllun ar gyfer 2008 yn unig yw hwn ac y bydd yn cael ei adolygu os bydd angen.
"Rwy'n falch dros ben bod synnwyr cyffredin wedi cario'r dydd," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, "a bod yr Eisteddfod bellach yn parchu'r egwyddor sylfaenol bod gan bawb hawl i addoli Duw heb orfod talu am wneud hynny.
"Gobeithio y bydd yr addolwyr yn parchu'r Eisteddfod drwy beidio â chymryd mantais o ewyllys da'r Brifwyl."
Er bod y cytundeb ar gyfer Prifwyl Caerdydd yn unig, dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'n drefn barhaol.
Fe fydd modd archebu'r tocynnau ar gyfer yr oedfa ar wefan Cytûn - www.cytun.org.uk neu drwy ffonio swyddfa Cytûn ar 029 2046 4204.
Rhaid i'r ceisiadau am docynnau ar gyfer mynediad i'r oedfa yn unig gyrraedd Cytûn erbyn Mehefin 30, 2008.