BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Ebrill 2008, 11:50 GMT 12:50 UK
Beth sy'n corddi pobl Cymru?
Garry Owen
Cyflwynydd Post Cynta a Newyddion

Garry Owen
Her o'r blaen: Cneifio defaid yn Y Bala

Llanrwst, Llangadog, Llanelli, Llangefni. Tybed sawl Llan sy yng Nghymru?

Cyn yr etholiadau lleol fe fydda i a 'nghydweithiwr i o'r Uned Wleidyddol, Owain Clarke, yn ymweld â nifer ohonyn nhw wrth fynd ar daith etholiadol O Lan i Lan.

Mae'r bag dros nos wedi ei bacio, y map yn barod, ac rwy'n ysu am ddechre'r siwrne.

Pa mor bwysig yw'r etholiadau i chi? A fyddwch chi yn bwrw pleidlais? Mae 'da fi ddigon o gwestiynau ond eich barn chi sy'n cyfri yn y pen draw.

Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am wasanaethau eang - o addysg i lanhau'r strydoedd, o wasanaethau cymdeithasol i barciau.

Beth tybed yw eich barn chi am safon y gwasanaeth? Beth hoffech chi ei weld yn digwydd?

Angenrheidiol

Bob bore ar Radio Cymru a phob nos ar Newyddion ar S4C fe fyddwn ni'n mynd i bentre neu dre yng Nghymru lle mae'r enw yn dechre â Llan.

Sut mae paratoi ar gyfer y daith? Wel, mae angen astudio'r map ac, wrth gwrs, gael gair bach tawel gyda Rhian Haf er mwyn gweld sut dywydd fydd ar y gorwel.

LLEOLIADAU'R DAITH
Ebrill 24 - Llanelwy
Ebrill 25 - Llanystumdwy
Ebrill 28 - Llanbrynmair
Ebrill 29 - Llangyfelach
Ebrill 30 - Llantrisant

Mae hynny'n allweddol, er mwyn gwybod beth i'w ddodi yn y cês.

A fydd angen cot law, het wlân a sgarff? Bydd angen fflasg, mae hynny'n si?r i chi, boed haul neu hindda.

Mae coffi'n angenrheidiol. Fel arfer, dyw'r caffis lleol ddim ar agor wrth i ni gyrraedd cyn 7am ar gyfer Post Cyntaf - ac maen nhw wedi hen gau erbyn Newyddion am 7.30pm.

Eleni mae cyfle i chi ddweud eich dweud cyn i fi hyd yn oed gyrraedd eich ardal chi.

Os oes gyda chi stori yr hoffech chi i ni ymchwilio, rhowch wybod i ni.

Tasgau

Efallai taw eich stori chi fydd yn hoelio'r sylw pan fyddwn ni'n galw heibio.

Yn ystod teithiau'r gorffennol rwy wedi cneifio defaid ger Bala a syrffio yn Abersoch.

Hyd yma does dim sôn am unrhyw dasgau o'r fath eleni ond, cofiwch, dyw hi ddim yn rhy hwyr i chi gynnig ambell awgrym.

  • Os oes gennych chi gwestiwn, pwnc yr hoffech ei drafod neu farn i'w lleisio, ffoniwch neu fe allwch e-bostio.

    Yr e-bost ydi olanilan@bbc.co.uk neu ffoniwch 08703 500 600.

    Oriau gwaith derbyn y galwadau yw 9am-9pm, dydd Llun tan ddydd Gwener, a 10am-6pm ar benwythnosau a gwyliau banc.
    Hyd at 6c y funud yw cost galwadau o linell BT (gall amrywio gyda chwmniau eraill a ffonau symudol) a bydd modd eu recordio at ddiben hyfforddi.



  • Etholiadau Lleol 2008

    NEWYDDION

    CANLYNIADAU

    Map Etholiadau Lleol 2008 Map 2008
    Map o'r canlyniadau o bob awdurdod yng Nghymru

    Logo Etholiad 2008 Y Canlyniadau
    Y manylion yn llawn o bob cyngor sir yng Nghymru

    Canlyniadau etholiadau lleol Cymru

      Cynghorwyr Cynghorau
    Ar ôl cyhoeddi canlyniadau 22 allan o 22 gynghorau.
    Llaf -124 342 -6 2
    Ceid 63 174 1 2
    PC 31 205 -1 0
    DemRh 21 162 0 0
    Eraill 9 381 0 0
    DRhL - - 6 18

    CEFNDIR
    MAES Y GAD

    DECHRAU'R FRWYDR

    Y CYNGHORAU
     



    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^