BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 20 Ebrill 2008, 10:28 GMT 11:28 UK
Cyn-Brif Gwnstabl: Dim cyhuddo

Terry Grange
Fe wnaeth Terry Grange ymddeol yn ddirybudd ym mis Tachwedd y llynedd

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio dwyn cyhuddiadau yn erbyn cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Terry Grange.

Ymddeolodd Mr Grange ym mis Tachwedd y llynedd ar l honiadau o anghysonderau ariannol a chamddefnyddio cyfrifiadur.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi bod yn ymchwilio i honiadau yn erbyn Mr Grange ac mae adroddiad y Comisiwn bellach wedi ei gyflwyno i Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio dwyn cyhuddiadau yn erbyn Mr Grange yn dilyn eu hadroddiad.

Cyhoeddi

Dywedodd y llefarydd: "Mae ein hadroddiad wedi cael ei drosglwyddo i Awdurdod Heddlu Dyfed Powys, ac rydym yn aros am ymateb.

"Rydym yn gobiethio cyhoeddi ffrwyth ein hymchwil yn gynnar ym mis Mai.

"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio dwyn cyhuddiadau. Dyna pam mae ein hadroddiad wedi ei drosglwyddo i'r Awdurdod Heddlu."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Fe wnaethon ni ystyried a oedd yr honiadau ynghylch yr e-byst yn ddigon difrifol ar gyfer trosedd Camymddwyn mewn Swydd Gyhoeddus a daethpwyd i'r casgliad nad oedden nhw.

"Fe wnaethon ni ystyried y defnydd amhriodol o'r cerdyn credyd ond daethpwyd i'r casgliad na fyddwn yn medru bodloni rheithgor bod Mr Grange wedi bod yn anonest."

Daeth Mr Grange yn brif gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn 2000 ac roedd yn llefarydd Cymdeithas y Prif Gwnstabliaid ar faterion gwarchod plant a rheoli troseddwyr rhyw.



HEFYD
Penodi Prif Gwnstabl newydd
28 Maw 08 |  Newyddion
Grange: Dim camymddwyn
18 Rhag 07 |  Newyddion
Pennaeth heddlu'n ymddeol
19 Tach 07 |  Newyddion
Ymddeol: 'Poeni am y sefyllfa'
20 Tach 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^