Fe benderfynodd Eunydd Thomas roi'r gorau i fod yn gynghorydd yn 2004
|
Mae cyn-gynghorydd wnaeth dderbyn arian ffarwel er mwyn ymddiswyddo fel rhan o gynllun arbennig wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd unwaith eto.
Yn 2004 penderfynodd Eunydd Thomas dderbyn arian fel rhan o gynllun oedd yn ceisio perswadio cynghorwyr hŷn i roi'r gorau i'w dyletswyddau er mwyn denu wynebau newydd i'r cynghorau.
Dywedodd Mr Thomas wrth bapur newydd fod ei gefnogwyr wedi ei berswadio i fod yn ymgeisydd ar gyfer Cyngor Caerfyrddin eleni.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd o'n torri unrhyw reolau ond eu bod nhw wedi ei gwneud hi'n glir mai dim ond pobl oedd yn bwriadu rhoi'r gorau iddi am byth ddylai fod wedi gwneud cais am yr arian "diswyddo".
Roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn un o wyth cyngor yng Nghymru wnaeth benderfynu cymryd rhan yng nghynllun Llywodraeth y Cynulliad yn ôl yn 2003 i geisio denu wynebau newydd.
Lleiafrifoedd ethnig
Yn ôl y cynllun roedd cynghorwyr oedd wedi gwasanaethu am 16 o flynyddoedd yn gallu derbyn hyd at £20,000 i roi'r gorau iddi yn 2004.
Nod y cynllun oedd ceisio denu ymgeiswyr iau, menywod a phobl o leiafrifoedd ethnig i'r awdurdodau lleol.
Mae'r cynllun wedi talu cyfanswm o £1.6 miliwn i 79 o gynghorwyr, gyda'r taliadau yn amrywio o £16,000 i £20,000.
Dywedodd Mr Thomas wrth y BBC ei fod eisoes wedi siarad gyda phapur newydd y Llanelli Star ac nad oedd am wneud unrhyw sylw pellach.
Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth y Cynulliad: "Fe wnaeth y llywodraeth hi'n gwbl glir mai dim ond cynghorwyr oedd yn rhoi'r gorau iddi yn etholiadau 2004, ac oedd a dim bwriad i ymgeisio eto, ddylai wneud cais am yr arian.
"Ond, oherwydd rhesymau cyfreithiol, doedd hi ddim yn bosib rhoi cymal fyddai'n gwahardd rhywun oedd yn derbyn yr arian rhag sefyll eto."
Gwaed newydd
Mae Mr Thomas yn un o saith ymgeisydd sy'n ymladd am ddwy sedd yn Llwynhendy, Llanelli.
Dywedodd Meilyr Bowen Hughes, ymgeisydd Plaid Cymru: "Dylai Llywodraeth y Cynulliad wedi rhwystro sefyllfa o'r fath."
Dywedodd ei fod yn "anhapus iawn" gyda'r eglurhad a roddwyd iddo pam nad oedd hyn wedi digwydd.
Dywedodd ymgeisydd arall Christopher Slader sydd hefyd yn ymgeisydd Plaid Cymru mai'r cymwysterau ar gyfer bod yn gynghorydd oedd "gonestrwydd a chywirdeb".
"Dyw'r cynllun ddim wedi bod yn gwbl lwyddiannus ac mae hyn yn drist oherwydd o ni'n gobeithio y byddai'n arwain at waed newydd a syniadau newydd.
Dywedodd Diana Darby, sy'n sefyll ar ran y Blaid Lafur,ei bod hi "wedi ei synnu oherwydd ei bod yn credu iddo (Mr Thomas) adael yn 2004".
Ychwanegodd fod Mr Thomas hefyd wedi gadael y Blaid Lafur yn 2004.
Doedd y tri ymgeisydd arall ddim am wneud sylw ar y mater.
Yr ymgeiswyr ar gyfer ward Llwynhendy yw :
Dill Bowen - Annibynnol
Diana Darby - Llafur
Don Davies - Annibynnol
Meilyr Bowen Hughes - Plaid Cymru
Pamela Jones - Llafur
Christopher Slader - Plaid Cymru
Eunydd Thomas - Annibynnol.